Partneriaeth elusennol newydd yn camu ymlaen

0
444
Strumble Head

Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyhoeddi partneriaeth elusennol newydd gyda Corgi Socks, busnes teuluol yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn arbenigo mewn sanau a dillad gwau moethus wedi’u gwneud â llaw ers 1892.

Fel rhan o’r bartneriaeth hon, bydd Corgi yn rhoi 20% o holl elw’r casgliad o sanau dynion a merched sydd wedi’u hysbrydoli gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro i’r Ymddiriedolaeth. Bydd yr arian yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i gefnogi’r gwaith hanfodol o wella mynediad i’r awyr agored, rhoi hwb i amrywiaeth a chadwraeth, hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored a chefnogi swyddi a sgiliau.

Dywedodd Chris Jones, Prif Swyddog Gweithredol Corgi: “Mae’r dirwedd eiconig hardd hon ar garreg drws ein cwmni yn ein hatgoffa bob dydd o bwysigrwydd materion amgylcheddol a chynaliadwyedd. Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi elusen sy’n helpu i gadw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn arbennig nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ymrwymo i ddiogelu popeth sy’n arbennig ac yn unigryw am dirwedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau. Ers sefydlu’r Ymddiriedolaeth yn 2019, mae wedi codi dros £100,000 ar gyfer prosiectau yn y Parc Cenedlaethol sy’n cefnogi cadwraeth, cymuned, diwylliant ac Arfordir Penfro.

Mae sanau Corgi sydd wedi’u hysbrydoli gan Arfordir Penfro ar gael yn www.corgisocks.com/collections/protecting-pembrokeshire-coast-national-park, ac mae gostyngiad o 10% ar gael dim ond i chi gofrestru i fod ar restr bostio Corgi.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle