Cymorth cyntaf iechyd meddwl yn rhan o becyn cymorth fferyllfeydd

0
358

Mae staff fferylliaeth gymunedol o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant ‘cymorth cyntaf iechyd meddwl’ i gefnogi eu cleifion, eu hunain, yn ogystal â’u cydweithwyr â’u hiechyd meddwl.

Mynychodd fferyllwyr, technegwyr fferyllol a dosbarthwyr o 35 fferyllfa hyfforddiant ar-lein i’w harfogi â’r offer i gefnogi eu hiechyd meddwl eu hunain a’u cydweithwyr, a’u hannog i gael gafael ar gymorth amserol pan fo angen.

Yn ogystal, mae’r hyfforddiant yn rhoi’r wybodaeth i’r cyfranogwyr nodi cyflyrau iechyd meddwl a amheuir mewn cleifion, a’r sgiliau i ddechrau sgwrs ynghylch iechyd meddwl.

Dywedodd Mike Ring, Sylfaenydd Mental Health Connected: “Roedd yn bleser cydweithio â fferyllwyr cymunedol a thechnegwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Gwnaeth eu hawydd a’u brwdfrydedd i ddysgu am gymorth cyntaf iechyd meddwl argraff arnaf a sut y gallant ei roi ar waith wrth iddynt ddelio â chleifion o ddydd i ddydd.

“Fel gweithwyr gofal iechyd rheng flaen, ni chydnabyddir ehangder y gwasanaethau a’r gefnogaeth a gynigir ganddynt ar adegau, gan mai nhw yw’r pwynt galw cyntaf i lawer o gleifion.”

Roedd yr adborth gan gyfranogwyr ar yr hyfforddiant yn cynnwys:

“Rhoi iechyd meddwl yn ei gyd-destun a gwneud inni werthfawrogi y gallwn wneud gwahaniaeth heb fod yn arbenigwr trwy wrando a chyfeirio yn unig.

“Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn a gwnaeth i mi deimlo’n llawer mwy hyderus o ran sut i gael sgyrsiau gyda chleifion a staff a chyngor ymarferol ar sut i’w helpu yn syth yn hytrach na’u atgyfeirio”

Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynnig hyfforddiant ychwanegol i bob fferyllfa eleni, er mwyn sicrhau bod gan bob fferyllfa hyrwyddwr iechyd meddwl.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle