Mentrau arallgyfeirio graddfa fach yn ‘haul ar fryn’ i dyddynwyr – Cyswllt Ffermio yn mynd ar-lein ar gyfer Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad rithiol y Sioe Frenhinol

0
290
Capsiwn y llun: Rheolwr cyfnewid gwybodaeth Cyswllt Ffermio a’r wenynwraig gymwysedig Lynfa Davies

Bydd Cyswllt Ffermio’n canolbwyntio ar fentrau arallgyfeiriograddfa fachsydd â’r potensial o ehangu, mewn rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein wedi eu hanelu at dyddynwyr a ffermwyr sy’n cael eu gwahodd iymunoar gyfer Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad y Sioe Frenhinol (Mai 15 ac 16) drwy gyfrwng y ffôn, cyfrifiadur neu dabled.

Ymysg prif themâu Cyswllt Ffermio fel rhan o raglen weithgareddau arfaethedig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fydd cadw gwenyn, sy’n gwneud cymaint i wella bioamrywiaeth; menter tyfu blodau a ffrwythaucasglu eich hunan’ a sefydlwyd yn ddiweddar yn ystod y cyfnod clo, yn ogystal â chyngor yngln â rhedeg uned foch lwyddiannus o safon uchel.

Dywed Ffion Rees, rheolwr digwyddiadau Cyswllt Ffermio, er nad yw’r sefyllfa wedi bod yn gwbl arferol o safbwynt Cyswllt Ffermio oherwydd cwtogi cymaint o weithgareddau wyneb i wyneb yn sgil y pandemig, mae’r gallu i gyrraedd cynulleidfa drwy gyfrwng digwyddiadau, cyrsiau hyfforddi, gweminarau a phrosiectau ar-lein sy’n benodol i’r sector wedi galluogi’r rhaglen i gefnogi a chadw mewn cysylltiad cyson â miloedd o ffermwyr a choedwigwyr ar hyd a lled Cymru.

Eleni, bydd rhaglen yrŵyl wanwyn yn cynnwys cyflwyniadau ar-lein am ‘Ddechrau cadw gwenyngan reolwr cyfnewid gwybodaeth Cyswllt Ffermio a’r wenynwraig gymwysedig Lynfa Davies; menter blodau a chasglu eich ffrwythau eich hun newydd a sefydlwyd gan Lucy Owen o Ruthun, mam ifanc brysur ag awch i sefydlu ei busnes newydd ei hun, a chyngor arbenigol i’r rhai sydd eisoes yn cadw moch neu’n awyddus i ddechrau arni.

Rydym ni wedi dod â nifer o arbenigwyr a mentoriaid at ei gilydd, pob un ohonyn nhw’n hapus i rannu eu profiad a’u doethineb gydag eraill sy’n ystyried sefydlu neu ehangu menter arallgyfeirio,” meddai Ffion.

Mae Lucy Owen yn wraig ifanc a mam i dri o blant ifanc, ac mae ganddi swydd ran amser ym maes cyfrifon. Yn 2019, wedi i’w phlentyn ieuengaf setlo yn yr ysgol feithrin, penderfynodd Lucy ei bod hi’n barod am her newydd!

Y trobwynt i fi oedd gwneud cais i Academi Amaeth Cyswllt Ffermio a roddodd ffrindiau newydd i mi, rhwydweithiau newydd o unigolion uchelgeisiol o’r un anian yn ogystal â’r hyder i gredu y gallwn ac y dylwn sefydlu fy musnes newydd fy hun!”

O wybod fod angen iddi ddod o hyd i rywbeth digon hyblyg i allu cyd-fynd â gofynion teulu ifanc a’i rôl ym maes cyfrifon, penderfynodd Lucy, sydd â gradd mewn amaeth a marchnata o Brifysgol Aberystwyth, y gallai droi ei diddordeb hirsefydlog mewn tyfu ffrwythau, llysiau a blodau ar gyfer y teulu yn ffynhonnell newydd o arian. Dysgwch sut mae prosiect cyfnod clo Lucy o arallgyfeirio i fyd garddwriaeth ar ddarn bychan o dir ar fferm y teulu, sydd wedi’i leoli ar y ffordd dwristaidd brysur rhwng Dinbych a Rhuthun, yn dwyn ffrwyth wrth iddi baratoi ar gyferdiwrnod agoredCyswllt Ffermio yn ystod yr haf, ymwelwyr casglu eich ffrwythau eich hun a’i gobaith am gynhaeaf pwmpenni sylweddol yn ystod yr hydref!

Ynghyd â Menter Moch Cymru, rhaglen Menter a Busnes sy’n anelu at ddatblygu’r sector moch yng Nghymru, bydd y milfeddyg moch arbenigol Bob Stevenson a’r ffermwyr ifanc a’r bridwyr moch blaenllaw Cennydd Jones a Naomi Nicholas sy’n ffermio yng Ngheredigion, yn cyflwyno dwy weminar. Bydd y gyntaf, dan ofal Bob Stevenson yn trafod ystyriaethau wrth brynu moch, yr hyn sydd angen ei osgoi a phrotocolau ynysu ac integreiddio. Bydd yr ail weminar yn rhoi cipolwg o daith Cennydd a Naomi ers cymryd rhan yng nghystadleuaeth pesgi moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru yn 2017.

Bydd Cyswllt Ffermio yn defnyddio rhaglen o gyflwyniadau ar-lein yr ŵyl i hybu’r ddarpariaeth ehangach o gyrsiau hyfforddi sy’n benodol i’r sector a gweithdai iechyd anifeiliaid, modiwlau e-ddysgu, digwyddiadau, gweminarau a phrosiectau arbenigol ar y pynciau hyn a nifer o feysydd ffermio a choedwigaeth eraill. Mae rhagor o fanylion ar gael yma www.llyw.cymru/cyswlltffermio

Dilynwch Cyswllt Ffermio ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube er mwyn ymuno â chyflwyniadau Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad CAFC ar adeg sy’n gyfleus i chi ar ôl Mai 15 ac 16.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle