Monitro’r dreigiau: o Dŷ Ddewi I sir Fynwy

0
305

Os ydych chi’n awyddus i fod allan yn y gefnwlad a chwrdd â rhai o ‘Ddreigiau’ Cymru, gall prosiect Newydd ARC, Monitro’r dreigiau fod i chi! Diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mae’r elusen bywyd gwyllt cenedlaethol yn gobeithio monitro statws cadwraethol poblogaethau amffibiaid ac ymlusgiaid ar draws de Cymru am y tro cyntaf, gyda help gwirfoddolwyr.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod poblogaethau herpetofauna yn dirywio ledled y byd, gyda cholledion a darnio cynefinoedd yn yrwyr allweddol. Mae amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru yn wynebi’r un bygythion, ond mae’n anodd iawn asesu oherwydd diffyg data o fonitro hir dymordyma y mae’r prosiect yma yn anelu newid! Fe fydd y project yn cynnwys yr holl rywogaethau o herpetofauna yn Ne Cymru, gyda ffocws ar dair rhywogaeth flaenoriaeth, y wiber, llyfant a’r fadfall y dŵr cribog.

Elfen hanfodol o’r prosiect ydy hyfforddiant a mentora gwyddonwyr dinesydd presennol a newydd mewn technegau arolygu herpetofauna a hwyluso defnydd eu sgiliau Newydd, gan gynnwys defnydd dechnoleg recordio arloesol (casglu data’n symudol).

“Mae ARC wedi adnabod amrywiaeth eang o safleoedd arolwg targed ym mhob awdurdod lleol yn Ne Cymru, o barciau cenedlaethol i ardaloedd ol-ddiwidiannolrydym ond angen gwirfoddolir i’w ymgymryd! Mae ARC yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod holl weithgareddau’r prosiect yn cydymffurfio a rheolau COVID-19 lleol i gadw pawb yn ddiogel. Fe fydd wirfoddolwyr yn cael eu paru gyda safleoedd monitro yn ein rhwydwaith peilot a’u chefnogi gyda’r offer a sgiliau angenrheidiol gan ein swyddogion maes, felly dyma ffordd wych i bobl canfod fwy am eu hardal leol a datblygu eu sgiliau ecolegol.

Fydd safleoedd monitro sy’n cael ei sefydlu yn ystod y prosiect yma yn cael eu defnyddio am flynyddoedd, yn darparu data gwerthfawr i ymchwilwyr, Cyrff Anllywodraethol, Cyrff Statudol Cadwraeth Natur, yn cyfrannu at ddyfodol gwell i amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru.” Dweddod swyddog prosiect ARC George Mee.

Cysylltwch â george.mee@arc-trust.org am wybodaeth am sut i gymryd rhan!


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle