UN MIS I FYND TAN ‘GWISGO COCH I GYMRU’

0
581

Fis i heddiw, ar ddydd Sadwrn 12 Mehefin, bydd Cymru’n cychwyn ei hymgyrch Ewro 2020, sydd wedi’i hail-drefnu, ac yn gobeithio ailadrodd llwyddiant 2016.

Nod ymgyrchGwisgwch Goch i Cymru a Felindreyw dangos cefnogaeth i dîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2020, annog rhoddion gwaed, a chodi arian hanfodol ar gyfer Felindre, Prif Ganolfan Ganser Cymru.

Bydd yr ymgyrch eleni yn ddathliad wythnos rhwng 12 a 20 Mehefin i gyd-daro â thair gêm Cymru yn y gystadleuaeth a Diwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd ar y 14eg.

Mae ysgolion yn cael eu hannog i gymryd rhan ddydd Mercher 16 Mehefin, pan fydd Cymru’n chwarae Twrci yn eu hunig gêm ganol wythnos.

Mae capten tîm bêl-droed Cymru a Llysgennad Felindre Gareth Bale yn cefnogi’r ymgyrch ac yn falch o wisgo cryst swyddogol ymgyrch Gwisgo Coch i Gymru, sydd ar gael i’w brynu ar www.cmsteamwear/Felindre am £5.99.

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cymru, hefyd yn cefnogi’r ymgyrch drwy oleuo llawer o henebion a chestyll Cymu yn goch drwy gydol y gystadleuaeth.

Dechreuodd yr ymgyrch Gwisgwch Goch gyntaf yn ystod Ewro 2016, pan welwyd Cymru yn cyrraedd y rowndiau cynderfynol. Ers hynny, mae’r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth drwy hefyd cefnogi tîm rygbi Cymru yn y Chwe Gwlad, gan godi dros £100,000 ers iddo gychwyn.

Eleni, ar ôl blwyddyn heriol fel elusen, mae Felindre yn gobeithio y bydd mwy o bobl nag erioed yn cymryd rhan yn yr ymgyrch.

Dywedodd Andrew Morris, Pennaeth Codi Arian Felindre: “Rydym wedi cael ein syfrdanu gan yr ymateb a gawsom i ymgyrch Gwisgwch Coch i Gymru a Felindre dros y blynyddoedd.

Ar ôl blwyddyn hynod heriol, gyda’r rhan fwyaf o weithgareddau codi arian yn cael eu ganslo neu eu gohirio, mae angen cefnogaeth pobl Cymru arnom nawr mwy nag erioed.

Mae angen y gefnogaeth er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu’r gofal, y driniaeth a’r gefnogaeth orau bosibl i’n staff, cleifion a’u teuluoedd.”

Dywedodd Jonathan Davies, OBE, Llywydd Codi Arian Felindre: “Mae’r ymgyrch yn ffordd wych o gynnwys pobl o bob oedran, cael rhywfaint o hwyl a chefnogaeth i Gymru, ond yn bwysicach na hynny, mae’n ffordd hawdd o godi ymwybyddiaeth a adnoddau hanfodol ar gyfer dau achos gwych sydd angen ein cefnogaeth nawr mwy nag erioed.

Os gwelwch yn dda, cymerwch ran. Mae mor hawdd, ond mae’r gwahaniaeth yn anhygoel.”

Mae’n hawdd cymryd rhan. Cofrestrwch fan hyn: www.velindrefundraising.com, dewiswch eich dyddiad a’ch gweithgaredd, gofynnwch i’ch disgyblion, staff, neuch cydweithwyr a’ch ffrindiau gwaith gymryd rhan a rhoi o leiaf £1 i Felindre. Rhannwch eich ymdrechion ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WearRedForWales

Yn dilyn y digwyddiad, medrwch gyfrannu arlein yma: www.velindrefundraising.com/donate neu drwy anfon siec sy’n daladwy i ‘Codi Arian Felindre‘ at: Codi Arian Felindre, Canolfan Ganser Felindre, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL.

Medrwch hefyd dalu £1 drwy anfon neges destun WR4W21 i 70201.

Bydd yr arian a godir o’r ymgyrch yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y cymorth gorau posibl yn cael ei gynnig i bob claf a’i deuluoedd sy’n delio â chanser

Bydd yr arian a godwyd hefyd yn galluogi Felindre i ariannu nyrsys arbenigol sy’n hanfodol i brofiad y claf, gweithredu prosiectau i wella cyfleusterau i gleifion, fel yr Ystafell Deulu a Phlant, a chymaint mwy.

Mae’r arian hefyd yn galluogi Felindre i gynnig gwell cymorth drwy lwybrau triniaeth cymhleth, mynediad cynharach at driniaethau arloesol, ymchwil i driniaethau newydd, prynu offer arbenigol, a sicrhau bod gan ein staff fynediad at yr hyfforddiant a’r technegau diweddaraf sydd ar gael.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle