Yr RNIB yn lansio cefnogaeth newydd yn ystod yr Wythnos Iechyd Meddwl

0
314
Kirsty James is still using mental health advice she got from RNIB

Mae’r Royal National Institute of Blind People (RNIB) yn cynnig Cyswllt Lles ac yn lansio amrywiaeth o ganllawiau iechyd meddwl ar gyfer pobl yng Nghymru yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (rhwng 10 Mai ac 16 Mai).   

Mae’r elusen yn amcangyfrif bod 111,000 o bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru ac mae’n dweud y bydd llawer ohonynt yn wynebu heriau unigryw o ganlyniad i lacio’r cyfyngiadau symud.   

Mae Cyswllt Lles yr RNIB yn rhoi cyfle i bobl ddall ac â golwg rhannol siarad â chwnselydd arbenigol dros y ffôn am sut maen nhw’n teimlo ac unrhyw broblemau y gallen nhw fod yn eu hwynebu. Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan golled golwg, gan gynnwys ffrindiau ac aelodau o’r teulu. Gellir cael mynediad i’r sesiynau hyn, gyda chymorth cyllid gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), drwy ffonio Llinell Gymorth yr RNIB ar 0303 123 9999. 

 Mae Kirsty James, 31 oed, o Gaerffili wedi bod yn byw gyda cholled golwg ers iddi fod yn ei harddegau. Dywedodd: “Fe wnes i ddefnyddio’r gwasanaeth Cyswllt Lles ar adeg o wir angen. Fe wnes i golli mwy o’r golwg oedd gen i ar ôl yn annisgwyl, ac roedd yn sioc fawr. Rydw i wedi cael fy nghofrestru fel unigolyn â nam golwg difrifol ers blynyddoedd lawer a doeddwn i erioed wedi cael cwnsela na chefnogaeth ar gyfer colli fy ngolwg. Ond y tro yma, roeddwn i’n teimlo mor anobeithiol fel ‘mod i’n gwybod bod arna’ i angen mwy o gefnogaeth.  

 “Fe wnes i ffonio’r RNIB am gefnogaeth emosiynol ac fe wnaethon nhw fy nghyfeirio i at gwnselydd anhygoel. Doedd yr alwad ffôn ddim yn frysiog ac roeddwn i wir yn teimlo bod rhywun yn gwrando arna’ i. Ar yr alwad, fe gefais i awgrymiadau ac adnoddau i helpu fy hun yn ystod y cyfnod brawychus yma ac roedd yn help mawr. Un o’r awgrymiadau oedd i mi ymlacio a rhoi amser i mi fy hun. Fe ddywedwyd wrthyf i, unrhyw bryd yr oeddwn i’n meddwl wrthyf i fy hun y dylwn i fod yn gwneud rhywbeth, i gywiro’r syniad hwnnw a chanolbwyntio ar fod yn llonydd ac yn y foment. Rydw i’n gwybod ei fod yn swnio’n syml, ond yn bendant dyma’r sylfaen ar gyfer fy adferiad i. 

“Dyma pam rydw i’n argymell y gwasanaeth i unrhyw un sy’n teimlo bod arnyn nhw angen rhywun i siarad ag ef am unrhyw beth sy’n effeithio ar eu hiechyd meddwl. Fe wnaeth siarad â rhywun fy helpu i gymaint.” 

Mae amrywiaeth newydd yr elusen o ganllawiau iechyd meddwl yn y Gymraeg ac yn Saesneg hefyd yn cynnig cyngor a gwybodaeth am lawer o bynciau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, fel unigrwydd, anawsterau cysgu, gwydnwch ac ymwybyddiaeth ofalgar, a gellir eu lawrlwytho o’r hwb Iechyd Meddwl ar wefan yr RNIB neu ofyn amdanynt drwy Linell Gymorth yr elusen. 

 Dywedodd Cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman: “Mae’r cyfyngiadau symud yn llacio’n araf mewn camau ac mae llawer ohonom ni’n teimlo bod y cyfnod hwn yn heriol, felly mae’n hanfodol parhau i ofalu am ein hiechyd meddwl.  

 “Os ydych chi’n cael anhawster gyda theimladau o unigedd ac angen siarad â rhywun, neu os ydych chi eisiau rhai awgrymiadau ar sut i gynnal eich iechyd meddwl – mae gan ein hwb iechyd meddwl yr holl wybodaeth a chyngor y bydd arnoch eu hangen.” 

 Pe baech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn elwa o siarad â rhywun, ewch i RNIB.org.uk neu ffoniwch Llinell Gymorth yr RNIB ar 0303 123 9999.  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle