GWEBINARAU RHITHIOL I DDENU FFERMWYR I GADW MOCH

0
381
LLUN: Yr arbenigwr a’r milfeddyg moch profiadol, Bob Stevenson

Prynu moch a chipolwg ar daith cwpwl ifanc yn magu moch fydd ar y fwydlen wrth i Menter Moch Cymru neidio ar y platfform ar-lein ar gyfer raglen o weithgareddau rhithiol Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad y Sioe Frenhinol a fydd yn cael ei chynnal ar y penwythnos.

Glaw neu hindda bydd y cyhoedd yn gallu tiwnio i mewn ar y we ar gyfer yr ŵyl o gysur eu cartrefi ac mae Menter Moch Cymru ar y cyd gyda Cyswllt Ffermio wedi trefnu webinarau proffil uchel.

Bydd y webinar cyntaf yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 15fed o Fai am 2yh pan fydd cyfle unigryw i glywed hanes taith magu moch Cennydd a Naiomi, ffermwyr o Geredigion. Dechreuodd y ddau ar y fenter o gadw moch wrth iddynt gymryd rhan yn y gystadleuaeth pesgi moch a gynhaliwyd gan Menter Moch Cymru a CFFI Cymru yn 2017.

Erbyn heddiw mae’r ddau yn cadw cenfaint fechan o foch bridio Cymreig gan werthu’r holl gynnyrch trwy eu cynllun blychau cig “Traed Moch

Ymunwch a Cennydd a Naiomi I ddysgu sut wnaethon nhw ddatblygu o gadw moch i adeiladu busnes sy’n cyflenwi porc yn lleol, sy’n seiliedig ar fagu moch Cymreig I’r safonau lles uchaf posibl, mewn modd cynaliadwy ar fferm laeth teuluol traddodiadol yng Nghymru.

Yn ein hail webinar a fydd yn cael ei chynnal ar ddydd Sul May 16eg am 2yh ymunwch a’r arbenigwr a milfeddyg moch profiadol, Bob Stevenson I ddarganfod y ffactorau sydd angen eu hystyried cyn prynu moch.

Yn ystod y webinar, bydd Bob yn trafod y meddyginiaethau y dylai moch eu derbyn cyn cyrraedd y fferm, a pha arwyddion a symptomau y dylai prynwr newydd fod yn edrych amdanynt wrth ddewis moch ar gyfer y daliad.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru bod y gallu i gyrraedd cynulleidfa trwy gyfrwng gwebinarau eleni yn ffordd arbennig i gadw cysylltiad gyda ffermwyr moch neu ffermwyr sydd yn ystyried cadw moch yma yng Nghymru.

Mae’n wych bod yr ŵyl yn cael ei chynnal yn rhithiol unwaith eto eleni. Mae’n ffordd inni gael parhau i drosglwyddo gwybodaeth a chadw cysylltiad gyda ffermwyr. Rydym yn lwcus iawn bod arbenigwyr a bridwyr moch yn barod i rannu eu profiadau a’u harbenigedd.”

Cadwch lygad ar wefannau cyfryngau cymdeithasol CAFC, Menter Moch Cymru a Chyswllt Ffermio yn ystod y penwythnos i fwynhau’r gwebinarau yma.

Ariannir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle