Gwersyll yr Urdd Llangrannog fydd cartref Eisteddfod T 2021

0
374

Mae Urdd Gobaith Cymru yn falch o gyhoeddi mai Gwersyll yr Urdd Llangrannog yng Ngheredigion fydd lleoliad yr ŵyl ddigidol Eisteddfod T eleni, a gynhelir yn ystod hanner tymor y Sulgwyn.

Darlledwyd Eisteddfod T 2020 o stiwdio dros dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd. Eleni, mae’r Urdd yn addo gŵyl ddigidol fwy arloesol fyth o gael darlledu Eisteddfod T o stiwdio arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Cynhelir yr ŵyl yn ystod wythnos arferol yr Eisteddfod, sef o ddydd Llun, 31 Mai hyd at ddydd Gwener, 4 Mehefin.

Yn wahanol i’r llynedd, bwriedir cynnal prif seremonïau Eisteddfod T ar leoliad yng Ngwersyll Llangrannog, a hynny o fewn cyfyngiadau Covid-19, ac mae’r trefnwyr wedi llwyddo i ail-recordio perfformiadau rhai unigolion mewn stiwdios darlledu.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Hoffwn ddiolch o galon i’r 12,000 sydd wedi cystadlu yn Eisteddfod T y tro hwn – sy’n ddwbl niferoedd llynedd. O Fôn i Fynwy ac o Drelew i Dubai, mae’r ymateb wedi bod yn syfrdanol.

“Mi ydan ni fel trefnwyr mor falch mai Gwersyll yr Urdd Llangrannog fydd cartref Eisteddfod T eleni. Mae’r ganolfan yn lleoliad eiconig yng Nghymru, a gwerth cenedlaethau o atgofion melys yn perthyn i’r lle. Bydd medru cynnal prif seremonïau’r ŵyl yno yn fonws, hefyd.”

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn croesawu Eisteddfod T yma i Geredigion gyda balchder a hyder y cawn wythnos o gystadlu brwd a diogel. Mae’r Gwersyll yn Llangrannog yn adnodd hynod o bwysig i’r mudiad ac i ni yng Ngheredigion, a braf iawn yw gweld yr Urdd yn gwneud defnydd o’r Gwersyll mewn ffordd greadigol i hybu adloniant i blant a phobl ifanc Cymru. Mae’r Cyngor Sir a’r Mudiad wedi gweithio’n agos iawn dros y misoedd diwethaf i sicrhau trefniadau a fydd yn boddhau gofynion a rheolau Covid-19 yn llawn. Edrychwn ymlaen yn fawr i weld y wledd o gystadlu a mwynhau dros wythnos yr Eisteddfod.”

Meddai Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog: “Mi fydd hi’n bleser croesawu cyflwynwyr a chriw ffilmio Eisteddfod T i’r gwersyll, a chael cynnig Bae Ceredigion yn gefndir i wythnos llawn bwrlwm a hwyl.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle