Mae gan Brifysgol Abertawe rôl flaenllaw mewn consortiwm newydd ledled y DU i ddod â data iechyd meddwl allweddol ynghyd.
DATAMIND â Data Hub for Mental Health Informatics Research and Development â yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o ganolfannau rhagoriaeth a lansiwyd gan Health Data Research UK.
Ariennir y ganolfan gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a’i nod yw gwneud y defnydd mwyaf o asedau data iechyd meddwl cyfoethog y DU er mwyn darparu ymchwil gydlynus, gan wella bywydau yn y pen draw.
Yr Athro Ann John, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yw cyd-gyfarwyddwr a phrif ymchwilydd y ganolfan.
Meddai: âRydym am wella iechyd meddwl pobl drwy newid y ffordd y mae’r GIG, elusennau, byd diwydiant ac ymchwilwyr yn defnyddio ac yn rhannu gwybodaeth sydd ar gael eisoes.
âO hyn ymlaen, bydd ymchwilwyr yn gallu dod o hyd i ddata iechyd meddwl a’i ddefnyddio er lles cleifion a’r cyhoedd, gan wella gofal. Byddwn yn gweithio gyda chleifion a phobl â phrofiad personol o faterion iechyd meddwl i ddeall pa rai y maent yn ymddiried ynddynt i ddefnyddio eu data, ac i ddatblygu ffyrdd o gydweithio ar iechyd meddwl.â
Bydd y ganolfan yn gweithio gyda’r rhai sy’n llunio polisĂŻau a phobl ym myd diwydiant er mwyn deall pa fath o ddata y mae ei angen arnynt, gan ddod ag ymchwilwyr ynghyd o nifer o brifysgolion.
Ychwanegodd yr Athro John: âBydd ein gwaith yn ei gwneud hi’n haws i bawb sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ddefnyddio data mewn ffyrdd diogel a blaengar sy’n diogelu preifatrwydd.â
Dyma’r ail ganolfan ymchwil sy’n gweithio gyda banc data SAIL. Maeâr banc data eisoes yn un o bartneriaid BREATHE â Health Data Research Hub for Respiratory Health â sy’n ceisio gwella bywydau miliynau o bobl sy’n dioddef o afiechydon anadlol.
Meddai’r Athro Keith Lloyd, Deon Meddygaeth Prifysgol Abertawe: âMae’r canolfannau eisoes yn asedau allweddol wrth i ni fynd ati i ddeall llawer o anhwylderau a’u trin a’u rheoli’n effeithiol.
âMae DATAMIND yn ychwanegiad amserol at y rhain a bydd yn siĹľr o fod yn
ddylanwadol wrth helpu pobl a gwella eu gofal. Rydym yn hynod falch bod Abertawe mor flaenllaw mewn datblygiad mor bwysig.â
Bydd y ganolfan yn gweithio gyda’r byd academaidd, y GIG, elusennau trydydd sector, y rhai sy’n llunio polisĂŻau cyrff cyhoeddus, a byd diwydiant, gan gynnwys Adolescent Mental Health Data Platform, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd, Psychiatry Consortium, McPin, Kooth, Catalogue of Mental Health Measures, rhaglen Cyflymu, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, MQ: Transforming Mental Health, a’r Cyngor Ymchwil Feddygol, ynghyd ag uwch-swyddogion gwyddonol ac arweinwyr polisĂŻau ym mhob un o’r pedair gwlad.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle