Beichiogrwydd a bwydo ar y fron a brechiad COVID-19

0
318

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd menywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron yn cael cynnig brechlyn COVID-19 yn unol â’u hoedran neu grŵp risg.

Yn ddiweddar, mae Cydbwyllgor y DU ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi cyhoeddi cyngor newydd ar frechu COVID-19 yn ystod beichiogrwydd. Gallwch ddarllen y canllawiau newydd yma (yn agor mewn tab newydd).

Mae’r JCVI wedi cynghori y dylid cynnig brechiad Pfizer-BioNTech neu Moderna i ferched beichiog ar yr un pryd â phobl o’r un oedran neu grŵp risg.

Mae menywod yn gymwys i gael eu brechu ar unrhyw adeg yn ystod eu beichiogrwydd, er y gall rhai menywod ddewis aros tan ar ôl eu sgan (12 wythnos). Anogir aelodau eraill o’r cartref hefyd i dderbyn eu brechlyn pan gânt eu galw, i amddiffyn menywod beichiog.

Cynghorir menywod sy’n ceisio beichiogi hefyd nad oes angen iddynt osgoi beichiogrwydd ar ôl brechu ac nid oes tystiolaeth i awgrymu y bydd brechlynnau COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb.

Dywedodd Julie Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Bydwreigiaeth a Menywod, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gwybodaeth gyfredol am y brechlynnau COVID-19 yn dangos bod brechlynnau yn effeithiol wrth atal COVID-19 ac yn un o’n arfau pwysicaf i helpu i leihau lledaeniad y feirws.

“Er mai prin yw’r data ar hyn o bryd ar ddiogelwch brechlynnau COVID-19 yn ystod beichiogrwydd, nid oes tystiolaeth y gall y brechlynnau achosi niwed i chi na’ch babi os ydych chi’n feichiog neu’n bwydo ar y fron. Yn UDA, mae tua 90,000 o ferched beichiog wedi cael eu brechu, yn bennaf gyda brechlynnau Pfizer a Moderna, ac ni nodwyd unrhyw bryderon diogelwch.”

Os ydych chi’n feichiog, cysylltwch â’n canolfan archebu trwy ffonio 0300 303 8322 neu anfon e-bost at COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk pan fyddwch chi’n derbyn eich llythyr apwyntiad fel y gallwn gofnodi eich bod chi’n feichiog ar ein system a sicrhau eich bod chi’n cael apwytniad mewn canolfan sy’n cyflwyno’r brechlyn Pfizer-BioNTech neu Moderna.

Dylai fod egwyl o saith diwrnod neu fwy hefyd rhwng y brechlyn COVID-19 a brechlynnau eraill, fel y brechiad pertwsis (peswch).

Ychwanegodd Dr Roopam Goel, Arweinydd Clinigol Obstetreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Efallai y bydd rhai menywod beichiog yn mynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19, yn enwedig yng nghyfnodau diweddarach eu beichiogrwydd.

“Dewis menyw yw cael y brechlyn ai peidio ar ôl ystyried y buddion a’r risgiau. Rydym yn annog menywod beichiog ac sy’n bwydo ar y fron yn gryf i drafod y wybodaeth sydd ar gael gyda’u meddyg teulu, obstetregydd neu fydwraig i wneud y penderfyniad sy’n iawn iddyn nhw. ”

Os ydych chi’n feichiog ac eisoes wedi derbyn eich brechlyn Rhydychen AstraZenca cyntaf, mae’n ddiogel ichi dderbyn eich ail ddos. Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y brechlyn hwn yn anniogel i ferched beichiog, ond mae angen mwy o ymchwil. Mae tystiolaeth ar bob brechlyn COVID-19 yn cael ei hadolygu’n barhaus gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a’r cyrff rheoleiddio yn y DU, UDA, Canada ac Ewrop.

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi cynhyrchu taflen wybodaeth (yn agor mewn dolen newydd) a chymorth penderfynu ynghyd â gwybodaeth arall (yn agor mewn dolen newydd) a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â’ch bydwraig neu ymgynghorydd am y risgiau a’r buddion i helpu i lywio eich penderfyniad.

Mae’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron, ffynhonnell gymorth a gwybodaeth annibynnol ar gyfer menywod sy’n bwydo ar y fron ac eraill, hefyd wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin (yn agor mewn dolen newydd) ynghylch bwydo ar y fron a’r brechlyn COVID-19 i helpu i lywio’ch penderfyniad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle