Hwn oedd yr eisin ar y gacen pan ddefnyddiodd Chloe Mannion o Hwlffordd ei thalent pobi i godi Ā£875 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg.
Mae Chloe, 22, yn gweithio fel porthor yn Llwynhelyg , ond mae hefyd yn bobydd, felly penderfynodd gynnal raffl fawr ar gyfer rhai o’i chacennau blasus.
Mae hi eisiau i’r arian a godir gael ei ddefnyddio tuag at iPads neu ffonau diwifr fel y gall cleifion gyfathrebu Ć¢’u teuluoedd pan fyddant yn yr ysbyty.
Rhedodd Chloe y raffl trwy ei thudalen Facebook Baked by Chloe | Facebook
Tra bo Chloe yn pobi, mae ei mam-gu, sy’n 92, yn ei gwylio ar Facetime ac weithiau mae aelodau eraill o’r teulu’n ymuno. Dyma’u ffordd o gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfyngiadau.
Meddai Chloe: āGan weithio fel porthor yn Ysbyty Llwynhelyg yn ystod y pandemig, gwn faint y gall godi calon claf os cĆ¢nt siarad ag aelod oāu teulu, felly roeddwn yn teimlo fy mod wedi fy ysbrydoli i wneud rhywbeth i geisio codi arian ar ei gyfer iPads neu ffonau diwifr.
āMae fy mam-gu ac weithiau fy modryb yn fy ngwylio yn pobi dros Facetime a dyma oedd ein ffordd o aros mewn cysylltiad. Felly, penderfynais y byddwn yn cynnal raffl fawr ar gyfer fy nghacennau. Fe wnes i bostio ar fy nhudalen Facebook a rhoi rhai posteri o amgylch yr ysbyty ac roedd llawer o ddiddordeb. ā
Roedd tri enillydd yn y raffl. Y wobr gyntaf oedd cacen, yr ail wobr oedd wyth cacen fach a’r drydedd wobr oedd chwe cacen fach.
Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn, fod yr elusen bob amser wrth eu bodd yn gweld y llu o wahanol syniadau y mae pobl yn eu cynnig i godi arian ar gyfer eu GIG lleol.
āMae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn, Diolch, Chloe.ā meddai Nicola
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle