£50,000 o gyllid ar gyfer prosiectau cymunedol carbon isel

0
426

Dyfarnwyd dros £50,000 o gyllid i brosiectau lleol trwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (SDF).

Ers Mehefin 2020, mae’r Gronfa wedi canolbwyntio ar gefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned sy’n cyfrannu at leihad mewn carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae’r rhain yn gallu cynnwys:

·       Gosod cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, megis paneli solar i adeilad cymunedol

·       Mentrau trafnidiaeth sy’n hyrwyddo llai o allyriadau carbon

·       Gosod cyfleusterau cymunedol sy’n lleihau gwastraff, fel ffynhonnau dŵr

·       Unrhyw fentrau cymunedol eraill sy’n lleihau allyriadau carbon.

Roedd RFC Dinbych-y-pysgod ymhlith y rhai a elwodd o’r cylch diweddaraf o grantiau gyda menter i osod biniau ailgylchu a gorsafoedd casglu sbwriel ym mhob un o’r cyfleusterau chwaraeon yn y dref.

Cafwyd dau gais llwyddiannus o ardal Solfach – un i osod paneli ffotofoltäig solar (PV) yng Nghlwb Cymunedol Solfach a’r llall gan Brosiect Rhandir Arfordir (Rhandiroedd a Drefnir gan y Gymuned ar gyfer Tenantiaid Solfach).

Roedd Ymddiriedolaeth Paul Sartori a Grŵp Cymunedol EcoDewi ymhlith eraill a gafodd grant. Roedd prosiect Paul Sartori yn cynnwys gosod dyfeisiau tracio ar faniau warws er mwyn lleihau llosgi tanwydd trwy deithio ar y llwybrau mwyaf effeithiol; tra bo EcoDewi wedi sicrhau cyllid i gefnogi rôl ran amser yn trefnu digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned a gweithgareddau gwirfoddoli, a datblygu partneriaethau cymunedol ehangach.

Dywedodd Swyddog Cyllido a Grantiau Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Jessica Morgan: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o amrywiaeth yn y ceisiadau rydyn ni wedi eu derbyn, a’r atebion arloesol a awgrymwyd gan gymunedau yn y Parc Cenedlaethol.

“Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn y ceisiadau yn y cylch nesaf, a byddem yn annog unrhyw fudiad neu grŵp a gaiff ei arwain gan y gymuned sydd angen cymorth i ariannu prosiectau a fydd yn helpu i leihau carbon a/neu ymateb i newid yn yr hinsawdd, i wneud cais cyn gynted â phosib.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau nesaf SDF yw dydd Gwener 10 Medi 2021.

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau Cronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF), ac i wneud cais ar-lein neu lawrlwytho’r ffurflen gais ewch i www.arfordirpenfro.cymru/awdurdod-y-parc-cenedlaethol/cronfa-datblygu-cynaliadwy.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle