Ymchwilwyr yn datgelu adnodd newydd i helpu i atal achosion o hunanladdiad

0
298

Mae tĂźm o academyddion o Gymru wedi datblygu dull newydd o helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau clinigol ynghylch pobl a all fod mewn perygl o ladd eu hunain.

Er bod cyfraddau hunanladdiad yn y DU ymysg yr isaf yn y byd, dyna achos mwyaf cyffredin marwolaeth ymhlith dynion dan 45 oed. Felly, mae’n hollbwysig gallu gwneud penderfyniadau proffesiynol strwythuredig ynghylch pobl a allai geisio lladd eu hunain a gwybod sut i ymyrryd.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd wedi rhoi protocol asesu perygl hunanladdiad (RoSP) at ei gilydd sy’n cyfarwyddo gweithwyr proffesiynol i ystyried 20 o agweddau ar fywyd unigolyn y gwyddys bod cysylltiad rhyngddynt a hunanladdiad. Yna gallant nodi beth yw problemau’r unigolyn a ffyrdd o’i helpu.

Mewn dwy astudiaeth, gwnaeth y tĂźm archwilio’n gyntaf a allai’r RoSP nodi achosion o hunanladdiad o blith marwolaethau damweiniol pobl a oedd yn adnabyddus i wasanaethau iechyd meddwl ac yn byw yn y gymuned a oedd wedi marw’n annisgwyl. Yn ail, archwiliwyd a allai’r protocol benderfynu pa rai fyddai’n debygol o geisio lladd eu hunain mewn ysbyty a oedd yn rhoi gofal i bobl mewn perygl clinigol uchel iawn.

Mae’r gwaith ymchwil, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan y cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw Frontiers in Psychiatry, yn dangos pa mor effeithiol y mae’r protocol yn y ddau gyd-destun.

Roedd yr Athro Nicola Gray, o Brifysgol Abertawe, yn gweithio’n therapiwtig gyda chleifion mewn perygl clinigol uchel iawn ar adeg yr astudiaeth.

Meddai: “Mae’r RoSP yn deillio o’n gwaith i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sut i nodi a rheoli achosion o drais gan y bobl yr oeddent yn gofalu amdanynt. Dywedodd y clinigwyr mai eu hanhawster clinigol mwyaf oedd nodi a rheoli’r perygl y byddai pobl yn niweidio eu hunain.

“Gofynnwyd i ni ddatblygu rhywbeth i nodi a gwella cynlluniau i ddiogelu’r bobl hynny sydd mewn perygl. Drwy fwrw golwg manwl dros ganllawiau arferion gorau, gwnaethom lwyddo i roi rhestr o ddangosyddion risg hysbys at ei gilydd y gallai clinigwyr eu nodi’n gymharol hawdd a chanolbwyntio ymyriadau arnynt, sydd o bwys mawr.

Fodd bynnag, dywedodd yr Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd, mai pwyll piau hi o hyd: “Ni fydd yn bosib nodi ac atal pob achos o hunanladdiad. Mae llawer o bobl yn lladd eu hunain heb weld gweithiwr proffesiynol erioed. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd defnyddio’r RoSP yn helpu’r rhai sy’n gweld gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol drwy adolygu sefyllfa ac arwyddion clinigol yr unigolyn yn systematig.

“Mae angen i ni edrych ar leoliadau megis adrannau damweiniau ac achosion brys, carchardai, meddygfeydd a mannau eraill lle gall pobl fod mewn perygl o ladd eu hunain.”

Gwnaeth yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe, cadeirydd grƔp cynghori cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad a hunan-niwed, gyfrannu at y gwaith ymchwil hefyd.

Ychwanegodd: “Mae’n gyffredinol hysbys ei bod hi’n anodd iawn rhagweld achosion o hunanladdiad ac nid yw NICE yn argymell defnyddio adnoddau asesu perygl clinigol er mwyn rhagweld perygl hunanladdiad yn y dyfodol.

“Mae’r RoSP yn asesiad clinigol strwythuredig sy’n cefnogi clinigwyr i nodi ffactorau risg addasadwy y gellir mynd i’r afael Ăą hwy wedyn. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymagweddau sy’n seiliedig ar anghenion ac yn helpu i ganolbwyntio’r asesiad ar sefyllfa unigolyn, a’r ffordd orau o reoli ffactorau risg a llunio cynllun diogelwch ar gyfer unrhyw argyfyngau yn y dyfodol.”

Structured Professional Judgment to Assist the Evaluation and Safety Planning of Suicide Risk: The Risk of Suicide Protocol (RoSP) Nicola Gray, Ann John, Aimee McKinnon, Stephanie Raybould, James Knowles and Robert Snowden


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle