Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd gyhoeddi lansiad eu prosiect newydd ar y cyd, âCamu i Chwaraeonâ.
Elusen yw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, sy’n cynnig grantiau i sefydliadau a phrosiectau sy’n cynnig llwybr amgen i bobl ifanc yn lle cael eu denu i droseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau. Ei nod yw rhoi cyfle i’r bobl ifanc hynny sydd wedi cael rhywfaint o brofiad o’r system cyfiawnder troseddol adeiladu’r sylfeini i wneud penderfyniadau bywyd mwy cadarnhaol, meithrin cydberthnasau gwell, a gwella eu lles meddyliol a chorfforol.
Mae âCamu i Chwaraeonâ yn brosiect gyda’r nod o ddefnyddio gwerth chwaraeon ar gyfer newid cymdeithasol a gweithgarwch ymgysylltu â chymunedau cryf i sicrhau dulliau ymyrryd yn gynnar ar gyfer troseddau a gyflawnir gan bobl ifanc. Drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, y gobaith yw y bydd pobl ifanc yn cadw draw oddi wrth ymddygiad troseddol.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi sicrhau bod ÂŁ20,000 are gael, ac mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyfrannu swm cyfatebol o arian.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, âMae’r prosiect mor bwysig wrth sicrhau lle diogel i bobl ifanc Caerdydd ddatblygu a thyfu. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi cyfle iddynt ddod o hyd i lwybr sy’n eu tywys oddi ar lwybr o droseddu posibl, gan eu galluogi i fyw bywyd iach, diogel a llwyddiannus.
âRwy’n gobeithio nad y prosiect hwn fydd yr unig enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni mewn partneriaeth, ond y bydd yn gweithredu fel catalydd ledled ardal De Cymru, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd i ddatblygu a chynnig cyfleoedd arloesol, hirdymor i’n pobl ifanc.â
Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth i swyddog Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Hwn fydd y grant mwyaf a roddwyd erioed gan yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid, ac mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod mor hael â chyfrannu swm cyfatebol o arian.
Ychwanegodd Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison, âMae Met Caerdydd yn rhoi pwyslais mawr ar newid addysgol a chymdeithasol ac rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd ar brosiect fydd yn gwella iechyd corfforol a meddyliol y rhai yn y system cyfiawnder ieuenctid yn y brifddinas.
 âMae hanes heb ei ail gennym o feithrin dawn chwaraeon ar draws ein campysau aân cymunedau lleol ac rydym yn deall yn iawn fod gan chwaraeon y grym i hyrwyddo cyfleoedd fydd yn arwain at fagu hyder, cymhwysedd a chysylltedd.â
Bydd y prosiect wedi’i leoli yng Nghaerdydd gyda nifer o glybiau yn cael budd o’r adnoddau a’r profiad:
Clwb Rygbi TrelĂĄi a Chaerau a Chlwb PĂŞl-droed TrelĂĄi a Chaerau
Clwb Tennis Bwrdd Dinas Caerdydd
GLL Leisure
Hangar Human Performance Centre
Clwb Bocsio Llanrumney Phoenix
Tiger Bay ABC
Bydd partneriaid yn Chwaraeon Caerdydd, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd hefyd yn cyfrannu adnoddau, a byddant yn cydweithio i rymuso pobl ifanc i fagu hyder a chymhelliant, a gwireddu eu potensial ar gyfer dyfodol mwy cadarnhaol.
Bydd y prosiect yn fyw o heddiw (dydd Llun 17 Mai) ymlaen, a byddwn yn dechrau derbyn pobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio i’r rhaglen.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle