Cydraddoldeb i Ferched: Yr Urdd yn profi fod Neges Heddwch 2021 yn “fwy na hashtag”

0
380

“Mwy na hashtag” – dyna farn ieuenctid Cymru am Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2021, ‘Cydraddoldeb i Ferched’, sydd wedi’i rhyddhau ar ffurf fideo pwerus heddiw (dydd Mawrth, 18 Mai). Mae’r Neges Heddwch yn bodoli ers 99 o flynyddoedd, a lluniwyd neges eleni gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

 

Mae pandemig Covid-19 wedi taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau sy’n dal i fodoli o fewn ein cymdeithas, ac mae ieuenctid Cymru wedi penderfynu defnyddio Neges Heddwch 2021 i fynegi eu gweledigaeth am genhedlaeth ble mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mewn neges bwerus, maen nhw’n galw ar bobl ifanc ar hyd a lled y byd i ddefnyddio’r “normal newydd” i greu dyfodol gwell drwy fynnu cydraddoldeb i ferched.

Mewn ymateb i Neges Heddwch 2021 mae’r Urdd fel mudiad yn gweithredu drwy ymrwymo i wireddu’r canlynol:

  1. Helpu taclo tlodi mislif drwy ddarparu cynnyrch hylendid am ddim yng Ngwersylloedd yr Urdd, pob Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a digwyddiadau Chwaraeon cenedlaethol y mudiad i’r dyfodol. Byddai hyn yn sicrhau fod cynnyrch mislif ar gael i dros 32,000 o ferched bob blwyddyn.
  2. Cynnig Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd fel lleoliadau i grwpiau o ferched bregus gael ymlacio.
  3. Sicrhau cydraddoldeb i ferched ar bob un o Fyrddau canolog yr Urdd.
  4. Sicrhau cefnogaeth barhaus i ferched ym myd hyfforddiant ac arweinyddiaeth, yn enwedig felly ym maes Chwaraeon.

Ar y 18fed o Fai bob blwyddyn ers 1922 mae’r Urdd wedi rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da gyda’r byd, a’i gyrhaeddiad wedi cynyddu’n flynyddol. Neges 2020 oedd y fwyaf llwyddiannus eto – cyrhaeddodd dros 37 miliwn o bobl mewn 40 o wledydd ledled y byd, a chafwyd ymatebion gan enwogion gan gynnwys Catherine Zeta-Jones, Matthew Rhys a Michael Sheen.

Lluniwyd Neges Heddwch 2021 gan 21 myfyriwr o Brifysgol Abertawe gyda chefnogaeth y bardd a’r awdur Llio Maddocks, yn dilyn gweithdai ‘Cydraddoldeb i Ferched’ o dan ofal Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd. Mae’r Neges wedi’i chyfieithu i dros 65 o ieithoedd hyd yma – y fwyaf erioed yn hanes y Neges Heddwch.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae’r Urdd yn arwain drwy esiampl ac yn sicrhau cydraddoldeb i ferched ar bob lefel, gan brofi fod y Neges Heddwch yn gymaint fwy na hashtag eleni. Mae cydraddoldeb a hawliau merched yn hollbwysig er mwyn sicrhau dyfodol sy’n darparu i bawb.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe am ei chefnogaeth i’r Neges. Mae wedi bod yn fraint i gyd-weithio â’r Brifysgol o gofio ei hymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb. Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad y myfyrwyr i lunio’r Neges ac i wneud gwahaniaeth yn heintus – rwy’n hyderus y bydd y Neges yn taro tant ar draws y byd ac y bydd gweithredu yn ei sgil.”

Meddai Shannon Rowlands o Gastell Newydd Emlyn, sy’n un o’r myfyrwyr a gyfrannodd tuag at y Neges Heddwch eleni: “Fel myfyrwraig meddygaeth, dwi wedi profi a chlywed am discrimination yn erbyn menywod ym myd meddygaeth. Gan fy mod i’n ferch, mae cleifion wedi cymryd yn ganiataol mai myfyriwr nyrsio ydw i yn hytrach na doctor, ac mae ffrindiau benywaidd gen i sy’n awyddus i fod yn lawfeddygon wedi derbyn cyngor i’w ailystyried fel gyrfa os ydyn nhw eisiau plant.

Dwi wedi bod mor ffodus i gwrdd â menywod hynod ysbrydoledig tra ar leoliadau gwaith, sy’n profi bod menywod yn gallu gweithio mewn unrhyw faes maen nhw eisiau. Mae pethau yn sicr yn gwella, ond mae dal gwaith i’w wneud – a dwi’n siŵr fod yr un peth yn wir am broffesiynau eraill, hefyd.”

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd wedi sicrhau neges o’r fath yn flynyddol. Doed a ddel, cyhoeddwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd gan bobl ifanc Cymru i’r byd yn flynyddol ers 1922 – ar ffurf cod Morse i ddechrau, yna fel darllediad radio a theledu gan BBC World Service, ac yn fwy diweddar trwy’r cyfryngau digidol. O ryfeloedd byd i gyfnodau o iselder mawr, ynghyd â’r pandemig presennol, mae’r Urdd wedi sicrhau neges flynyddol i estyn allan i’r byd.

Gellir darllen Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2021 mewn dros 65 iaith yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle