Cyfle olaf i gwblhau’r cyfrifiad ar lein

0
360

Cyfle olaf i gwblhau’r cyfrifiad ar lein

Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i chi gwblhau Cyfrifiad 2021 ar lein, gan y bydd yr holiadur electronig yn cau ddydd Llun 24 Mai.

Mae 97% o gartrefi – ffigur anhygoel – ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi cymryd rhan i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyfrif ar gyfer gwasanaethau lleol fel meddygfeydd, lleoedd mewn ysgolion a gwelyau mewn ysbytai.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r rhai nad ydynt wedi llenwi eu ffurflen wneud hynny yn ôl y gyfraith, a dylen nhw gwblhau’r cyfrifiad nawr er mwyn osgoi cael dirwy o £1,000.

Dim ond tua 10 munud fesul unigolyn y mae’n ei gymryd i’w gwblhau ar lein. Fodd bynnag, dim ond holiaduron papur y gellir eu dychwelyd ar ôl 24 Mai. Os bydd pobl yn gwrthod cymryd rhan, gallen nhw orfod mynd i’r llys, a chael dirwy a chofnod troseddol.

Bydd y cam diffyg cydymffurfio yn dechrau ar 25 Mai, a bydd timau arbenigol yn ymweld â’r rhai nad ydyn nhw wedi ymateb eto. Byddan nhw’n cyfweld â chartrefi dan rybuddiad.

Ni fyddan nhw byth yn rhoi dirwy nac yn gofyn am daliad ar garreg y drws, dros y ffôn neu drwy neges destun, neu ar y cyfryngau cymdeithasol. I gael dirwy, rhaid i’ch achos fynd i’r llys am beidio â chwblhau’r cyfrifiad.

Dywedodd Iain Bell, dirprwy ystadegydd gwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Rydym ni wedi cael ymateb rhyfeddol i Gyfrifiad 2021 hyd yma, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Bydd y wybodaeth rydych chi wedi’i darparu yn helpu i lywio penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau pob dydd, o lwybrau bysiau i feddygfeydd, am flynyddoedd i ddod.

“Mae’n hynod bwysig bod unrhyw un sydd heb ymateb eto yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.”

Caiff sampl o gartrefi eu gwahodd i gymryd rhan yn Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad (ACC) hefyd. Mae’r arolwg byr ar wahân hwn, a gaiff ei arwain gan gyfwelydd, yn ffordd bwysig o alluogi SYG i gael trosolwg terfynol o’r cyfraddau ymateb. Drwy gymryd rhan, byddwch chi’n gwella ansawdd y wybodaeth a gaiff ei chasglu yn y cyfrifiad. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau lleol yn eich cymuned.

Bydd cymorth a holiaduron papur ar gael ar gais tan 11 Mehefin drwy ganolfan gyswllt y cyfrifiad ar radffon 0800 169 2021 yng Nghymru a 0800 141 2021 yn Lloegr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle