Wrth i Sir Benfro ddod allan o’r cyfyngiadau symud ac wrth i fusnesau ddechrau ailagor, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn croesawu ymwelwyr yn ôl i Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn ystod yr hanner tymor hwn.
Gyda dewis cyffrous o weithgareddau i weddu i bob oed, a chaffis i ategu diwrnod allan, mae rhywbeth i bawb ym mhob un o atyniadau poblogaidd yr Awdurdod i ymwelwyr.
Yng Nghastell Caeriw rhwng 2 a 6 Mehefin, bydd taith ‘Horrid Histories’ yn cael ei chynnal yn rhad ac am ddim i’r genhedlaeth iau gyda straeon arswydus, chwedlau dychrynllyd ac adroddiadau anghynnes am fywyd yn y castell. Defnyddiwch eich ffôn i chwilio am ddreigiau fel rhan o’n Helfa Ddreigiau.
Daw’r Castell yn fyw unwaith eto yn y cyfnod Canoloesol ddydd Sul 30 Mai tan ddydd Mawrth 1 Mehefin gyda Bowlore yn arwain yr arddangosfeydd ymladd â chleddyfau, saethyddiaeth ac arfau, gyda thâl bychan am rai gweithgareddau.
Rhaid archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau ar-lein yn www.carewcastle.com. Mae’r Castell ar agor rhwng 10am a 4pm, Ystafell De Nest rhwng 11am a 4pm ac mae’r Felin Heli ar agor rhwng 11.30am a 5pm.
Am rywbeth hollol wahanol, ewch draw i Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, sydd ar agor ar hyn o bryd rhwng 10am a 3pm, i gael cyfle i weld arddangosfa Amgueddfa Genedlaethol Cymru am fyd rhyfeddol pryfed genwair, sy’n arddangos hyd at 6 Mehefin.
Mae’r oriel yn gartref i ddau fan arddangos a’r Tŵr Artistiaid Preswyl gydag arddangosfeydd hyfryd o dirluniau i’w mwynhau ac i’ch ysbrydoli. Ar ôl hynny, gellir ymweld â Chaffi’r Pererin, sy’n agored rhwng 10am a 3.30pm gyda seddi dan do ac yn yr awyr agored.
Mae’n werth ymweld â’r arddangosfa Vermilion fywiog gan Joy Dixon, gwaith manwl godidog Clive Gould ac Arfordir a Chefn Gwlad Sir Benfro gan Graham Brace, a’r cydweithrediad seramig crog rhwng Ian McDonald a Maria Jones. Ewch i www.orielyparc.co.uk i gael manylion arddangosfeydd a chyfleusterau.
Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, mae eich antur hynafol yn disgwyl amdanoch ar Ddiwrnodau Profi’r Oes Haearn rhwng dydd Sadwrn 29 Mai a dydd Llun 31 Mai a dydd Mercher 2 Mehefin a dydd Iau 4 Mehefin.
Dysgwch sut roedd pentrefwyr yn paratoi ar gyfer brwydr, beth oedden nhw’n ei fwyta, sut roedden nhw’n gwneud eu dillad a’u tai crwn. Ddydd Mawrth 1 Mehefin bydd y Rhufeiniaid Rheibus yn ymosod ar Gastell Henllys – a fyddwch chi’n ymuno â’r Lleng Rufeinig neu’n ymuno â’r Frenhines Buddug i’w herio nhw?
Hefyd yn ystod yr wythnos hanner tymor mae gweithdai Byw yn y Gwyllt, Yr Hen Geltiaid a Thecstilau Creadigol. Codir tâl bychan am ddigwyddiadau felly ewch i www.castellhenllys.com am fanylion a gwybodaeth archebu.
I’r rheini sy’n chwilio am antur awyr agored, mae dewis gwych o ddigwyddiadau i’r teulu, gan gynnwys taith gerdded Blodau Gwyllt yn Freshwater East, ddydd Mawrth 25 Mai, dau ddigwyddiad Ystlumod Ysblennydd gyda’r nos – yn Nhyddewi ddydd Sul 30 Mai ac yng Nghastell Caeriw ddydd Iau 3 Mehefin.
Mae yna hefyd daith gerdded ar Faes Tanio Castellmartin ddydd Llun 31 Mai a thaith gerdded Gymraeg yng Nghwm Gwaun ddydd Iau 2 Mehefin. Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer y digwyddiadau hyn yn www.pembrokeshirecoast.wales/events.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle