Profiad A Syniadau Ffres Wrth Galon Tîm Senedd Plaid Cymru

0
960
Adam Price - Plaid Cymru Leader

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, heddiw wedi cyhoeddi ei lefarwyr allweddol yn y Senedd, gan addo dwyn Llywodraeth Llafur Cymru i gyfrif gyda gwrthblaid “adeiladol ond fforensig”.

Dywedodd Adam Price AS fod Cymru bellach yn dechrau ar “gyfnod tyngedfennol” wrth adfer o’r pandemig ac y bydd y camau y bydd y Llywodraeth Lafur yn eu cymryd nawr – yn enwedig o ran iechyd, yr economi, a’r amgylchedd – yn diffinio dyfodol ein cenedl ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru fod tîm newydd y Senedd wedi gwneud y gorau o “sgiliau, profiad a syniadau ffres” y Grŵp ac y byddent yn dod â “deinameg newydd a chadarnhaol” i drafodion y Senedd.

Dywedodd Adam Price AS:

“Rwy’n falch o arwain tîm unedig gyda’r sgiliau, y profiad a’r syniadau ffres sydd eu hangen i ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif, yn adeiladol ond yn fforensig.

“Mae Cymru bellach yn cychwyn ar gyfnod tyngedfennol o adfer o’r pandemig. Bydd y camau y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu cymryd nawr yn diffinio dyfodol ein cenedl ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

“Dyna pam rwy’n benderfynol y bydd tîm Senedd Plaid Cymru yn craffu ar bob cyhoeddiad a darn o ddeddfwriaeth gyda’r manylder sydd ei angen.

“Gyda chyfuniad o Aelodau sydd newydd a’r rhai cafodd eu hail-ethol, mae Grŵp Plaid Cymru yn dod â deinameg newydd a chadarnhaol i drafodion y Senedd.

“Lle mae tir cyffredin, bydd Plaid Cymru bob amser yn gweithio gydag eraill er budd ein cenedl ond pan fydd diffygion o ran byrder a chyflawni, byddwn yn dal y llywodraeth i gyfrif ac yn mynnu gwell i Gymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle