Mae wyth o nyrsys dan hyfforddiant wedi codi swm syfrdanol o ÂŁ2,245 i dalu am iPads fel y gall cleifion yn Ysbyty De Sir Benfro gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid tra na allant dderbyn ymwelwyr.
Lansiodd y tĂźm nyrsio – Shannon John, Ruth Morgan, Anna Griffiths, Chloe Thomas, Aneesah Tamlin, Shanice Riley, Dominika Szwab a Lisa Perst – dudalen Just Giving a threfnu raffl fawr o wobrau.
Cafodd y Nyrsys Myfyrwyr wobrau gan fusnesau lleol a chawsant rodd o ÂŁ500 gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, a enwodd hwy hefyd yn godwyr arian y flwyddyn. Rhoddwyd iPad hefyd gan Valero Energy.
Dywedodd Shannon sydd, ynghyd Ăą’r nyrsys eraill, wedi’u lleoli yn Llwynhelyg ond sy’n hyfforddi yng Nghaerfyrddin, eu bod wir eisiau helpu cleifion yn ne Sir Benfro i siarad Ăą theulu a ffrindiau pan nad oedd hi’n bosibl derbyn ymwelwyr.
âGyda chyfyngiadau COVID-19, roedd cleifion yn mynd am gyfnodau hir heb fod mewn cysylltiad ag aelodauâr teulu. Fe wnaethon ni benderfynu bod angen iPads ar yr ysbyty i sicrhau y gallai cleifion aros mewn cysylltiad a gweld aelodau eu teulu, âmeddai Shannon, 25.
âDiolch yn fawr iâr holl fusnesau lleol sydd wedi ein cefnogi i godi arian ar gyfer Ysbyty De Sir Benfro ac i bawb a ddaeth Ăą thocynnau. Rydyn ni’n teimlo mor falch ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth ac rydyn ni nawr wedi ein hysbrydoli i gynnal ymgyrch fwy ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg eleni. â
Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn, yr hoffai’r elusen ddiolch i’r nyrsys am eu ymdrech arbennig:
âMae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt iâr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,â meddai Nicola.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle