Sut y gallech chi gael system gwres canolog am ddim mewn pryd ar gyfer y gaeaf

0
412

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn galw ar berchnogion tai sy’n gymwys i gael system gwres canolog nwy am ddim i wneud cais i’w Gronfa Cartrefi Cynnes mewn pryd ar gyfer gaeaf nesaf.

Mae’r Gronfa’n helpu i leihau cost eich biliau ynni drwy osod system gwres canolog nwy am y tro cyntaf (boeler, rheiddiaduron, pibellau) a mesurau arbed ynni (inswleiddio’r llofft, diogelu rhag drafft, bylbiau golau ynni isel etc.) i sicrhau bod y cartref yn cael ei wresogi’n effeithlon.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’r perchnogion cartrefi:

beidio â bod â system gwres canolog nwy eisoes.

Bod yn berchen ar dŷ neu’n rhentu tŷ yng Nghastell-nedd Port Talbot yn breifat (bydd angen i landlordiaid preifat dalu cyfraniad 25% tuag at gost y gwaith).

Cael eu hystyried fel aelwyd incwm isel NEU aelwyd sy’n gwario mwy na 10% o’u hincwm aelwyd ar filiau ynni NEU fod yn hawlio budd-daliadau penodol.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys, gall Tîm Adnewyddu Tai y cyngor (01639 686504 neu e-bostiwch renewalarea@npt.gov.uk) eich helpu gyda’r broses ymgeisio.

Nid oes rhaid i berchnogion tai dalu unrhyw beth tuag at gost y system gwres canolog ond ni ellir defnyddio’r gronfa i dalu am gost cysylltiad nwy â’ch eiddo. Fodd bynnag, gallai rhai aelwydydd fod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at gysylltiad nwy drwy’r Cynllun Ymestyn y Rhwydwaith Tlodi Tanwydd.

Roedd llawer o’r perchnogion tai sydd wedi cyflwyno cais llwyddiannus i’r gronfa yn arfer gwresogi eu cartrefi gan ddefnyddio gwresogyddion trydan neu foeleri glo.

Meddai preswylydd o Bort Talbot sydd wedi arbed £473.28 ers newid i system gwres canolog nwy, “Mae’n llawer mwy cyfforddus a chynhesach na defnyddio stôr-wresogyddion trydan. Mae’n hawdd iawn i’w defnyddio ac mae’r thermostat llaw yn ddefnyddiol iawn hefyd.”

Meddai’r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd,

“Gyda thywydd yr haf ar ei ffordd, mae’n bosib mai gwresogi eich cartref yw’r peth olaf ar eich meddwl. Ond, dyma’r amser perffaith i osod boeler newydd ar gyfer y gaeaf.

“Rydym yn credu bod pawb yn haeddu cael byw mewn cartref cynnes ac rydym yn ymrwymedig i wneud yn siŵr y gall pobl fforddio’r ynni y mae ei angen arnynt.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n credu y gallem helpu i gysylltu â ni – ac i breswylwyr feddwl am unrhyw ffrindiau neu aelodau o’r teulu a allai elwa o’r Gronfa Cartrefi Cynnes.”

Sefydlwyd y Gronfa Cartrefi Cynnes gan y Grid Cenedlaethol ac fe’i gweinyddir gan Affordable Warmth Solutions i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i’r afael â rhai o’r problemau sy’n effeithio ar aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: www.npt.gov.uk/warmhomesfund . Os ydych chi’n ansicr a ydych chi’n bodloni’r meini prawf, cysylltwch â’r Tîm Adnewyddu Tai ar 01639 686504 neu e-bostiwch renewalarea@npt.gov.uk .


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle