Astudiaeth yn taflu goleuni newydd ar y cysylltiad rhwng pwysau Covid-19 a meddyliau am hunanladdiad

0
535
Stock images and photoshoot for Swansea University.

Mae ymchwil newydd wedi egluro ymhellach effaith Covid-19 a’r cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl a lles pobl yng Nghymru.

Bu pryderon am y ffordd y mae’r pandemig wedi amharu ar ein hiechyd corfforol a’r economi, ond mae hefyd wedi effeithio ar ein hiechyd meddwl wrth i gyfraddau hunanladdiad gynyddu o bosib.

Nawr, mae astudiaeth newydd – cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru – wedi ymchwilio i’r straenachoswyr sy’n gysylltiedig â Covid-19 sydd fwyaf tebygol o sbarduno pobl i ystyried lladd eu hunain.

Gwnaeth yr ymchwilwyr hefyd ddarganfod rôl bwysig gobaith am y dyfodol – ynghyd â lefelau gwytnwch unigolion – o ran ymdopi â’r straenachoswyr hyn.

Gwnaeth mwy na 12,000 o bobl ymateb i arolwg Lles Cymru, a ofynnodd i wirfoddolwyr rannu eu profiadau yn ystod cyfnod clo cyntaf y DU.

Mae’r canlyniadau, sydd newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn Archives of Suicide Research, yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng sawl straenachoswr – megis ynysu cymdeithasol, cam-drin domestig, problemau o ran perthnasoedd, colli swydd, a phroblemau ariannol – a meddyliau am hunanladdiad.

Fodd bynnag, ni wnaeth pawb sy’n cael y problemau hyn ddweud eu bod wedi meddwl am ladd eu hunain. Roedd y straenachoswyr hyn yn cael llai o effaith ar unigolion gwydn iawn a oedd yn llawn gobaith am y dyfodol.

Meddai’r Athro Nicola Gray, o Brifysgol Abertawe: “Gallwn ddefnyddio’r canfyddiadau hyn i glustnodi’r straenachoswyr mwyaf niweidiol o ran sbarduno pobl i ystyried lladd eu hunain. Efallai y bydd rhai o’r straenachoswyr hyn yn lleihau wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, ond mae’n bosib y bydd eraill yn parhau am amser hir yn y dyfodol.”

Ychwanegodd yr Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd: “Mae’n anodd osgoi llawer o’r straenachoswyr hyn, felly mae angen i ni hefyd wreiddio gobaith am y dyfodol yn ein cymunedau er mwyn helpu pobl i oroesi’r adeg anodd hon.”

Cynhaliwyd yr arolwg ar adeg y cyfnod clo cyntaf yn y DU (Mehefin–Gorffennaf 2020) ac mae prif awdur y papur, James Knowles, o Brifysgol Abertawe, yn parhau i fonitro’r sefyllfa.

Meddai: “Nid yw ymatebion pobl i argyfwng trawmatig yn dilyn llwybr syml o iselder i wellhad. Ar hyn o bryd, mae’n aneglur a yw pobl wedi gwaethygu wrth i’r argyfwng barhau neu a ydynt wedi dechrau derbyn y sefyllfa’n fwy a meithrin gwytnwch cynyddol. Dim ond drwy ddeall hyn y gallwn ymateb yn effeithiol a helpu pobl sydd o bosib yn dioddef.”

Darllenwch y gwaith ymchwil yn ei gyfanrwydd: The role of hope and resilience in protecting against suicidal thoughts and behaviours during the Covid-19 pandemic James Knowles, Nicola Gray, Chris O’Connor, Jennifer Pink, Nicola Simkiss a Robert Snowden


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle