Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu hannog i fanteisio ar reoli porfa’n effeithiol a phori cylchdro er mwyn helpu’r diwydiant i ddod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Mae Dr Catherine Nakielny wedi defnyddio Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio fel cyfle i ymchwilio sut all cynhyrchwyr cig oen ddarparu ‘nwyddau cyhoeddus’ gan wella eu gallu cynhyrchiol a gwytnwch eu busnes ar yr un pryd.
Mae gan Dr Nakielny gysylltiad oes gyda defaid ac mae hi’n angerddol am y rhywogaeth. Er hynny, mae hi’n cyfaddef bod yna heriau ynghylch ffermio defaid yn gynaliadwy yma yng Nghymru.
Mae gorbori yn lleihau niferoedd blodau gwyllt a gall gyfrannu at ddŵr ffo sy’n rhedeg oddi ar gaeau yn ystod cyfnodau o lawiad uchel.
“Heb roi rhywfaint o ystyriaeth i benderfyniadau rheoli tir, gall ffermio defaid yn unig leihau bioamrywiaeth wrth i’r ystod o gynefinoedd gael ei leihau hefyd,’’ meddai Dr Nakielny.
Ychwanegodd Dr Nakielny, er mwyn goroesi, mae rhaid i’r diwydiant ffermio defaid gydweithio law yn llaw gyda’r amgylchedd a bodloni gofynion y llywodraeth a’r defnyddwyr ar gyfer darparu ‘nwyddau cyhoeddus’, yn ogystal â chynhyrchu bwyd.
Aeth astudiaeth Dr Nakielny â hi i Iwerddon, Sbaen a nifer o ranbarthau’r DU.
Un o gasgliadau ei hymchwil oedd yn hytrach na bod yn ofn newid, nid oes rhaid i ffermwyr defaid ddisgwyl unrhyw anfanteision ynglŷn â darparu llawer o’r nwyddau cyhoeddus a’r gwasanaethau ecosystem y mae gofyn iddynt ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mewn gwirionedd, gellir cysylltu nifer o’r newidiadau sydd angen eu gwneud â’r twf clir ym mhroffidioldeb a gwytnwch busnesau ffermio yng Nghymru.
“Yr her i ffermwyr a sefydliadau’r diwydiant fydd datblygu system lle gall cynhyrchiant cig oen cynaliadwy gael ei fesur, ei farchnata ac efallai ei frandio,” meddai.
Yn y cyfamser, mae llawer o gyfleoedd i wella ein dealltwriaeth am y cysylltiad rhwng darparu nwyddau cyhoeddus a gwasanaethau ecosystem gyda chynnal diwydiant ffermio defaid proffidiol a gwydn.
Er enghraifft, mae rheoli’r borfa’n effeithiol a phori cylchdro yn chwarae rôl gadarnhaol mewn dal a storio carbon, ac mae cynlluniau sy’n hawdd i’w gweithredu, ar gyfer plannu coed ar raddfa fechan yn fuddiol ar gyfer da byw a’r amgylchedd hefyd, dywedodd Dr Nakielny.
Dylai ffermwyr hefyd ganfod systemau i gyflwyno stribedi byffro er mwyn lleihau dŵr ffo a chreu cynefinoedd, gan ddefnyddio mathau amrywiol o lystyfiant a phlannu coed.
Mae Dr Nakielny yn annog y diwydiant defaid hefyd i gefnogi a meithrin cynlluniau cydweithredol a fydd yn helpu cyflwyno technegau rheoli dalgylch a gwelliant cysylltiedig yn effeithlonrwydd systemau ffermio.
Gall hyn fod ar ffurf ffermwyr a thirfeddianwyr cymdogol yn cydweithio i greu ystod ehangach o gynefinoedd ar raddfa ehangach neu ffermwyr i fyny’r afon yn mynd i’r afael â rheoli dŵr er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd i lawr yr afon.
Gallai’r diwydiant a chymunedau gwledig gryfhau drwy gyfleoedd marchnata brand yn seiliedig ar gyfuniad o nwyddau cyhoeddus, tarddiad a chefnogaeth ar gyfer bywiogrwydd gwledig.
Dywedodd Dr Nakielny, “Un o’r negeseuon clir a ddaeth o’r ymweliadau ag Iwerddon a Sbaen oedd yr angen i ffermwyr weithio gyda’i gilydd’’.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle