Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal clinigau brechu COVID-19 cynenedigol a bwydo ar y fron pwrpasol mewn pedair canolfan brechu torfol bob bore Mawrth.
Er y bydd pob canolfan brechu torfol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gallu brechu unrhyw un sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron a bydd y clinigau cynenedigol yn cael eu cynnal gan fydwraig pe bai unrhyw un yn dymuno derbyn cwnsela a chyngor ychwanegol ynghylch derbyn y brechlyn yn ystod beichiogrwydd.
Bydd y clinigau pwrpasol yn rhedeg bob bore Mawrth rhwng 9am ac 1pm yn y canolfannau brechu torfol canlynol:
- Canolfan Gynadledda Halliwell, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3EP
- Theatr Ffwrnes, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE
- Archifdai Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, SA61 2PE
- Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3FL
Os hoffech fynd i glinig brechlyn beichiogrwydd a bwydo ar y fron pwrpasol gallwch hunangyfeirio trwy lenwi’r ffurflen ar-lein ganlynol: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrhRcpjSFfEpMvfa3YjA3QbpUQjUzOEtTQlVCTUVYSkxFSFMyVzExNTFJVi4u neu ffonio 0300 303 8322. Peidiwch â mynychu heb apwyntiad.
Dywedodd Alison Evans, Nyrs Arweiniol Glinigol ar gyfer Canolfannau Brechu Torfol Hywel Dda: “Rydym yn deall bod llawer o wybodaeth ar gael am y brechlyn a all fod yn ddryslyd wrth benderfynu ai ei gael yw’r penderfyniad iawn i chi.
“Wrth i ni ddechrau gwahodd ein carfannau iau fel mater o drefn i dderbyn brechlyn, roeddem am ddarparu cefnogaeth ychwanegol i unrhyw un sy’n feichiog trwy ddarparu clinigau pwrpasol gyda bydwraig ar gael i siarad a trafod.
“Wrth gwrs, gall unrhyw un sy’n feichiog drafod y wybodaeth sydd ar gael gyda’u meddyg teulu, obstetregydd neu fydwraig ar unrhyw adeg a byddant yn gallu derbyn y brechlyn yn unrhyw un o’n canolfannau brechu torfol, ond rydym yn falch o allu cynnig y clinigau pwrpasol hyn i unrhyw un sy’n teimlo y byddent yn elwa o gefnogaeth a chyngor ychwanegol.
Mae Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi cynhyrchu taflen wybodaeth a chymorth wrth benderfynu (yn agor mewn tab newydd) ynghyd â gwybodaeth arall (yn agor mewn tab newydd) a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â’ch bydwraig neu ymgynghorydd am y risgiau a buddion i helpu i lywio eich penderfyniad.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle