Cynigion ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe – cyhoeddi adroddiad ymgynghorol

0
375

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi’i adroddiad ar ymgynghoriad i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg 3-11 oed i gymryd lle ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre’r-graig a Llan-giwg.

Gellir gweld yr adroddiad yma: https://www.npt.gov.uk/1890?lang=cy-gb

Aeth y cyngor ati i geisio barn rhwng 3 Tachwedd y llynedd a 9 Ionawr eleni ar ei gynnig ar gyfer ysgol gynradd newydd, unfed ganrif ar hugain ar gyfer Cwm Tawe i gymryd lle ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre’r-graig a Llan-giwg.

Y cynnig yw adeiladu ysgol newydd ar dir ym Mharc Ynysderw, Pontardawe, gan ffurfio rhan o gampws cymunedol addysg, iechyd a llesiant sy’n cynnwys Ysgol Gymunedol Cwmtawe a Chanolfan Hamdden Pontardawe, a bod y campws yn cynnwys pwll nofio chwe lôn gyda phwll ychwanegol i ddysgwyr er mwyn gwella’r ddarpariaeth iechyd a llesiant ar gyfer disgyblion a’r gymuned yn ehangach.

Cefndir cynnig y cyngor i ad-drefnu, a’r ymgynghoriad a ddilynodd, yw’r cyfrifoldeb sydd ganddo i hybu safonau addysgol uchel a darparu addysg gynradd ac uwchradd effeithlon.

Yr her sy’n wynebu cynghorau ledled Cymru a gweddill y DU yw cael yr ysgolion cywir yn y lle cywir, a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer dysgwyr yr 21ain Ganrif.

Cyhoeddi’r adroddiad ymgynghori yw’r cam nesaf yn y broses o ad-drefnu’r ysgolion fel yr amlinellir ef yng Nghod Trefnu Ysgolion statudol Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn cynnwys crynodeb lawn o sylwadau ac yn cynnwys ystod eang o farn, gan gynnwys barn rhieni, disgyblion, cynghorau tref a chymuned, Aelodau’r Senedd, undebau llafur a’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant i Gymru, Estyn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle