Diffoddwyr tân i ddringo Pen y Fan 5 gwaith gan wisgo cyfarpar llawn y Diffoddwyr Tân

0
368

Firefighters to climb Penyfan 5 times in full Firefighter Kit

Ym mis Chwefror 2021, yn anffodus collodd y Diffoddwr Tân, Carl Lewis, ei chwaer, Marie, i COVID-19.  Er cof amdani, bydd Carl a’i gyd-ddiffoddwyr tân yng Ngorsaf Dân Llandeilo yn dringo mynydd Pen y Fan 5 gwaith, sef cyfanswm o 20 milltir, gan wisgo cyfarpar llawn y Diffoddwyr Tân, ynghyd â set o gyfarpar anadlu – bydd gwisgo hyn oll yn golygu 22.5 kg (3.5 stôn) ychwanegol ar ben pwysau eu corff eu hunain!

Bydd yr her yn cael ei chynnal ar 1 Awst 2021.

Bydd yr holl arian a godir gan yr her codi arian hon yn mynd i’r uned gofal dwys yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, a ofalodd mewn modd mor annwyl am Marie pan oedd angen hynny arni hi a’r teulu fwyaf.

Dywedodd Carl, “rydw i wir am roi rhywbeth yn ôl i’r tîm anhygoel o feddygon, nyrsys a staff ar y ward fendigedig hon yn Ysbyty Glangwili.  Nid yn unig gofalu am fy chwaer, pan na allem ni, ond hefyd am yr hyn y maent wedi’i wneud i bawb yn ystod yr amseroedd digynsail ac anodd y mae pandemig COVID-19 wedi’u cyflwyno iddynt.

Ategodd, “gobeithio y gallwch roi rhodd, ni waeth pa mor fach, er cof am wraig, mam, llys-fam, mam-gu, chwaer a ffrind mor anhygoel i nifer, gan godi arian y mawr ei angen ar gyfer ein GIG anhygoel yn Ysbyty Glangwili.

Gallwch gyfrannu at yr her codi arian hon trwy fynd i’r dudalen Just Giving YMA 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle