Elusennau Iechyd Hywel Dda ar gystadleuaeth anifeiliaid anwes yn lansio heddiw

0
283
picture shows some of the entrants from 2020.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda unwaith eto eleni yn lansio eu cystadleuaeth anifeiliaid anwes flynyddol – cyfle i helpu i godi arian hanfodol i’ch elusen GIG leol, ond hefyd dalu teyrnged i’n cŵn ciwt, cathod chwareus a chwningod cwtshlyd.

Y cyfan sy’n rhaid i bawb ei wneud yw anfon llun o’u hanifeiliaid anwes, gan ddilyn y cyfarwyddiadau yn y ddolen hon: www.justgiving.com/campaign/pet-comp2021

Gall perchnogion anifeiliaid anwes ymgeisio cymaint o weithiau ag y dymunant yn y categorïau Ci mwyaf ciwt, Cath mwyaf ciwt ac Anifeiliaid Anwes arall ciwt. Ac mae gwobrau i’r enillwyr!

Mae pob llun yn costio £2. Mae’r ceisiadau’n agor ar 1 Mehefin ac yn cau ar 30 Mehefin 2021.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un ac anogir staff y GIG ac aelodau’r cyhoedd i gystadlu, gyda lluniau o’u hanifeiliaid anwes.

Bydd y tri terfynol ym mhob categori yn cael eu dewis gan dîm Elusennau Iechyd Hywel Dda. Yna, dewisir yr enillwyr trwy bleidleisiau gan y cyhoedd.

Cyhoeddir enillwyr ar 21ain Gorffennaf. Mae gwobr ar gyfer y cyntaf ymhob categori, ond bydd pob ymgeisydd yn derbyn tystysgrif.

Y llynedd, roedd y ceisiadau’n amrywio o gŵn bach a daeargi, i gathod, moch cwta, hwyaid bach a hyd yn oed moch!

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Bob tro mae rhywun yn ymgeisio gyda lluniau o’u hanifeiliaid anwes poblogaidd, maent yn ein helpu i godi arian i wneud gwahaniaeth positif i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Mae’n gyfle i bobl ddweud diolch i’r GIG ac, ar yr un pryd, talu teyrnged i’w hanifeiliaid anwes, y gwyddom sydd wedi bod yn gwmni da ystod y pandemig.

“Pob Lwc!”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle