Jason Mohammad yn pwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg yn ystod seremoni Prif Ddysgwr Eisteddfod T

0
615
Phoebe Skinner, Prif Ddysgwr Eisteddfod T 2021

Heddiw (Dydd Llun, 31 Mai) cyhoeddwyd mai Phoebe Skinner, 18 oed o Gaerdydd yw Prif Ddysgwr Eisteddfod T 2021. Datgelwyd yr enillydd mewn seremoni arbennig oedd yn cael ei darlledu’n fyw o Wersyll yr Urdd Llangrannog, gyda’r beirniad Jason Mohammad yng nghwmni’r tri chystadleuydd terfynol.

Jason Mohammad, Beirniad Cystadleuaeth Prif Ddysgwr Eisteddfod T 2021

Yn ystod y seremoni dywedodd Jason Mohammad, sydd hefyd o Gaerdydd, ei fod am ddiolch i bawb a’i helpodd i ddysgu’r Gymraeg ac mai “braint” oedd cael beirniadu cystadleuaeth Prif Ddysgwr Eisteddfod T eleni.

“Fel un sydd wedi dysgu’r iaith, roedd yn fraint i gael yr alwad gan yr Urdd i feirniadu cystadleuaeth y Prif Ddysgwr,” meddai Jason Mohammad. “Mae yna lot o bobl yn synnu at y ffaith bod Jason Mohammad o’r byd teledu a radio yn gallu siarad Cymraeg… Felly ar y llwyfan heddiw, dw i eisiau dweud diolch o galon i bawb sydd wedi fy helpu fi!

“Rwy’n hapus i ddweud fy mod i’n defnyddior Gymraeg bob dydd. Mae ein plant ni yn siarad Cymraeg ac weithiau dwin defnyddior iaith ar Radio 2… Mae’r rheswm dwin siarad am beth dwi’n gwneud efor iaith yn syml iawn: maen holl bwysig i ddyfodol yr iaith ar wlad ein bod nin clywed straeon fel hyn. Pobl sy ‘di gweithio yn galed iawn yn yr ysgol, coleg ac yn y brifysgol i ddysgur iaith ac yn bwysicach na hynny – yn defnyddio’r iaith bob dydd. Maer bobl anhygoel sy gyda ni heddiw yn rhan o’r Gymru newydd.”

Gofynion cystadleuaeth Prif Ddysgwr Eisteddfod T oedd creu cyflwyniad ar ffurf fideo fyddai’n ysbrydoli cynulleidfa, ac roedd gwylio’r holl gynnwys yn brofiad “hollol ryfeddol” yn Ă´l y beirniad.

“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cystadlu eleni,” ychwanega Jason Mohammad. “Roedd y fideos yn llawn o angerdd am yr iaith Gymraeg… gyda geirfa ardderchog, acenion hyfryd. A beth oedd yn bwysig iawn hefyd — roedden nhwn dod o ardaloedd ar draws y byd: o Gaerdydd i Batagonia!

“Roedd gan Phoebe angerdd a gweledigaeth ar gyfer yr iaith… Roedd ei chariad at y Gymraeg yn amlwg. Mae hi’n dangos yn glir pam y dylech chi nid yn unig wneud y Gymraeg fel pwnc yn yr ysgol, ond hefyd ei defnyddio hi yn eich bywyd bob dydd.”

Phoebe Skinner, Prif Ddysgwr Eisteddfod T 2021

Mae Phoebe Skinner newydd sefyll ei Lefelau A yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ac mae hi’n bwriadu mynd i brifysgol i astudio Cerddoriaeth ym mis Medi.

Meddai Phoebe: “Mwynheais ein gwersi Cymraeg yn yr ysgol yn fawr, a dw i wrth fy modd yn gweithio mewn siop lyfrau Cymraeg. Dw i’n gobeithio y bydd fy ngwaith buddugol yn annog pobl ifanc eraill i astudio Cymraeg yn y chweched dosbarth; mae’n brofiad anhygoel.”

Noddir y gystadleuaeth gan Fwydydd Castell Hywel, ac mae Phoebe yn derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans. Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Kiera Jones o Ferthyr Tudful a Matthew Minshull o Henllan, Sir Ddinbych yn drydydd.

Gellir dod o hyd i holl ganlyniadau Eisteddfod T hyd yma drwy ymweld â gwefan s4c.cymru/urdd

Bydd Eisteddfod T yn cael ei chynnal gydol yr wythnos hon, 31 Mai – 4 Mehefin. Mae 12,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 120 o gystadlaethau. Mae modd ymuno yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda’r hashnod #EisteddfodT.

DIWEDD


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle