Safonau Masnach Cymru yn rhoi rhybudd am dwyll neges destun am y Cyfrifiad

0
482

Mae Safonau Masnach Cymru wedi cael ei hysbysu am  dwyll ar ffurf neges destun sy’n ymwneud â’r Cyfrifiad cenedlaethol.

Dywedir wrth y bobl sy’n derbyn y neges fod gwybodaeth ar goll o’u Cyfrifiad wedi’i gwblhau a gofynnir iddynt glicio ar ddolen er mwyn cwblhau eu ffurflen neu byddant yn wynebu cael eu herlyn. Wrth glicio ar y ddolen cânt eu cyfeirio at safle sy’n edrych yn union yr un peth â ffurflen ar-lein y Cyfrifiad. Wrth lenwi’r ffurflen a’i chyflwyno, gofynnir i’r derbynnydd dalu ffi o ÂŁ1.25. 

Meddai Helen Picton, Cadeirydd Gwasanaeth Safonau masnach Cymru: “Mae galwadau a negeseuon twyllodrus i ffonau symudol yn broblem ddifrifol. Does dim byd cyfwerth â rhwystr galwadau ffôn llinell dir ar gyfer ffonau symudol er mwyn eu hatal rhag eich cyrraedd.

 “Mae rhai o’r negeseuon hyn yn argyhoeddiadol iawn. Cofiwch, ni fyddai unrhyw asiantaeth llywodraeth yn anfon neges atoch yn mynnu arian trwy neges destun neu drwy neges ffĂ´n awtomataidd.

 “Os yw cwmni’n anfon dolen atoch trwy neges destun yn gofyn i chi glicio arni, dylech ei hanwybyddu. Os ydych yn ansicr gan fod gennych gyfrif gyda’r cwmni hwnnw, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol a pheidiwch â defnyddio’r ddolen a ddarperir.”

 Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i leihau nifer y galwadau a negeseuon testun twyllodrus rydych yn eu derbyn:

  • Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol osodiadau sy’n rhwystro rhifau. Chwiliwch ar y rhyngrwyd am “atal rhifau ar fy ffĂ´n symudol (enw’r brand)” i gael rhagor o wybodaeth am eich ffĂ´n neu fel arfer mae cyngor ar wefan darparwr eich ffĂ´n symudol.
  • Gallwch gofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau FfĂ´n
  • Rhowch wybod am y negeseuon hyn i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – 7726
  • https://www.ncsc.gov.uk/guidance/suspicious-email-actions
  • Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cyfrifiad 2021 trwy ffonio 0800 169 2021 ar gyfer Cymru neu 0800 141 2021 ar gyfer Lloegr.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle