Tîm Allgymorth Lleiafrifoedd Ethnig Newydd

0
282
Stepheni Kays, Community Development Outreach Manager.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn arwain y ffordd gyda phrosiect newydd a fydd yn gweld tîm o weithwyr cymunedol profiadol yn estyn allan at bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i’w helpu yn ystod y pandemig COVID-19.

Sefydlwyd y prosiect mewn ymateb i argymhellion mewn adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a brofir gan gymunedau du, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Gwnaethpwyd y prosiect blwyddyn hwn yn bosibl diolch i grant o £75,000 a ddyfarnwyd gan NHS Charities Together i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dechreuodd tîm allgymorth dan arweiniad Stepheni Kays, Rheolwr Allgymorth Datblygu Cymunedol, eu gwaith mis diwethaf, gan ymgysylltu â chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio’n andwyol gan Coronafeirws a’r effaith anghymesur y mae COVID-19 wedi’i chael ar bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Bydd y tîm yn estyn allan at y 10,000 a mwy o bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sy’n byw yn y tair sir sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywedodd Pennaeth Partneriaethau, Amrywedd a Chynhwysiant y bwrdd iechyd, Helen Sullivan, fod y prosiect yn arloesol ac y bydd yn canolbwyntio ar adeiladu cysylltiadau ac annog adborth a rhyngweithio.

“Mae’n gyfle gwych i arwain y ffordd wrth ymgysylltu â chymunedau sydd wedi dioddef yn niweidiol yn ystod y pandemig,” meddai Helen.

“Bydd sefydlu rhwydweithiau effeithiol ar gyfer ymgysylltu ag unigolion, teuluoedd, cymunedau a chyda chyfryngwyr dibynadwy yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithwyr allgymorth cymunedol fod yn weladwy yn yr ardal. Mae ein dull yn cydnabod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cwmpasu chwarter tirfas Cymru a bydd yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaeth hygyrch ac ymatebol ar draws ein hardal ddaearyddol fawr, sydd â phoblogaeth o 384,000. “

Bydd y gweithwyr allgymorth yn datblygu cysylltiadau agos ag awdurdodau lleol, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r broses Profi, Olhrain, Diogelu (TTP) a rhaglen frechu COVID-19. Bydd y tîm yn sicrhau bod negeseuon iechyd ehangach yn hygyrch ac yn cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig i gael gwell dealltwriaeth o’u hawliau a’u mynediad at ofal iechyd.

Mae data o StatsWales yn dangos bod 3.9 y cant o boblogaeth Sir Gaerfyrddin yn dod o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, gyda 1.9 y cant yn Sir Benfro ac 1.3 y cant yng Ngheredigion (ym mis Mehefin 2020).

Ychwanegodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Y gweithwyr allgymorth datblygu cymunedol fydd y cyswllt rhwng y bwrdd iechyd a’n cymunedau.

Byddant yn cefnogi camau cydlyniant cymunedol ac yn anelu at gael gwared ar unrhyw rwystrau i gael mynediad at wasanaethau.

“Bydd hyn yn cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig trwy gynyddu gwybodaeth leol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, gan annog ymyrraeth gynnar ac atal i wella canlyniadau iechyd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle