Newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr ar Ddiwrnod Cynaliadwyedd y GIG

0
240
Tree planting at Withybush

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymuno â sefydliadau GIG eraill heddiw (4 Mehefin) i ddathlu Diwrnod Cynaliadwyedd y GIG.

Mae’r diwrnod hwn yn lwyfan i arddangos peth o’r gwaith sy’n digwydd yn y sector iechyd gan awgrymu syniadau i weithwyr y GIG ar ystod o bynciau, o faeth i gynhyrchu ynni.

Mae staff o bob rhan o’r bwrdd iechyd yn defnyddio’r diwrnod i ddathlu rhai o’r ffyrdd y maent yn ceisio bod yn fwy caredig i’r blaned a helpu i wella llesiant staff, cleifion ac ymwelwyr.

Mae Becci Johnson sy’n fydwraig o Sir Benfro, wedi datblygu poster sy’n cynnwys 10 Cam Gweithredu Newid Hinsawdd, i annog rhieni newydd i fod yn fwy cynaliadwy a dangos sut y gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr.

Mae’r poster yn cynnwys awgrymiadau a chyngor i helpu pobl a’r amgylchedd. Un enghraifft yw bwydo ar y fron; cyfrifwyd y gallai arbedion carbon deuocsid a gafwyd trwy gefnogi mamau i fwydo ar y fron yn y DU fod yn gyfwerth â chymryd dros 77,000 o geir oddi ar y ffordd bob blwyddyn.

Mae plannu coed a chreu dolydd wedi bod yn brosiect gwyrdd arall y mae staff wedi bod yn rhan ohono. Yn ystod gaeaf 2020, rhoddodd NHS Forest ar y cyd ag Ecosia 200 o goed brodorol i Ysbyty Llwynhelyg ac maent wedi’u plannu ar y safle.

Er mai dim ond bychan ydyn nhw ar hyn o bryd, mae’r glasbrennau wedi cael effaith gadarnhaol ar yr olygfa wrth gerdded trwy safle’r ysbyty. Y gobaith yw y bydd y prosiect yn cael ei ymestyn i lawer o leoliadau eraill.

Mae staff Llwynhelyg hefyd wedi bod yn gweithio gyda Plantlife Cymru / Magnificent Meadows i greu dolydd blodau gwyllt ar gyfer cynefinoedd ac ecosystemau cynaliadwy.

Nod yr holl brosiectau gyda’i gilydd yw gwella iechyd a llesiant cleifion, staff a chymunedau trwy gynyddu mynediad i fannau gwyrdd ac annog bioamrywiaeth.

Mae caffael lleol ar gyfer cyflenwadau bwyd yn ffordd arall y mae’r bwrdd iechyd yn ceisio lleihau ei ôl troed carbon; mae’r bwrdd iechyd yn gweithio gyda’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol a phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin i ddatblygu dull caffael blaengar.

Y nod yw datblygu cadwyn gyflenwi o fentrau lleol, Mentrau Bach a Chanolig, busnesau sy’n eiddo i weithwyr, mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a mathau eraill o berchnogaeth leol.

Mae partneriaeth â Castell Howell wedi profi i fod yn llwyddiannus a bydd yn darparu sylfaen ar gyfer gwaith pellach yn ystod 2021 gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus fel Cyngor Sir Caerfyrddin, wrth hyrwyddo caffael bwyd o ffynonellau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gan y Bwrdd Iechyd, fel sefydliad allweddol ran ganolog i’w chwarae i annog staff a’n cymunedau lleol i gymryd camau cadarnhaol ar yr argyfwng iechyd a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed i nodi gweithredoedd y gellid eu cyflwyno ar draws y bwrdd iechyd ac mae’r astudiaethau achos rydyn ni wedi’u rhannu yr wythnos hon yn ddim ond ychydig o’r mentrau sy’n cael eu cyflawni.”

Ychwanegodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu ac mae ein hadrannau corfforaethol yr un mor bwysig wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd â’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau i gleifion yn lleoliadau ysbyty neu gymunedol.

“Nid cyfrifoldeb rhywun arall yw newid yn yr hinsawdd. Ein cyfrifoldeb ni i gyd a gyda’n gilydd gallwn ni i gyd chwarae rôl wrth sicrhau lles ein poblogaethau heddiw ac yfory.

“Mae heddiw yn gyfle i annog eraill i ymuno i wneud newidiadau syml a all wneud gwahaniaeth mawr. Er enghraifft, gallai newid i boteli dŵr y gellir eu hail-lenwi yn lle poteli plastig arbed 65kgCO2 y flwyddyn, ac mae diffodd argraffwyr, cyfrifiaduron ac offer arall dros nos yn helpu i reoli colli gwres a lleihau allyriadau CO2. ”

Os hoffech ddarganfod mwy am ein gwaith, ewch i’n tudalennau Iechyd Gwyrdd https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-gwyrdd-yn-hywel-dda/ neu e-bostiwch StrategicPartnerships.hdd@wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle