Elywel Iechyd Hywel Dda ar her planciau

0
329
the whole group taking part, including the planks team - Kristian Jones (ex-RAF Regiment), Mark Richards (ex-Royal Welch Fusiliers), Gronwy Quinn (ex-Royal Welsh), LCpl George Martin (Royal Engineers), Dorothy Jones (missing from photo) and Captain Colin Jones MBE (ex- Royal Welch Fusiliers and Royal Welsh) – sub-committee members Kelvin Jones and George Barrat; MP Ben Lake; and Sea Cadets Holly, Alice and Shaun, with the collection tins

Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Ceredigion a gyflawnodd her casgenni a phlanciau lafurus iawn ar bromenâd Aberystwyth i godi arian ar gyfer ward plant Ysbyty Bronglais.

Gan ddefnyddio tair casgen a thri phlanc, teithiodd y tîm o chwech am 1.6 milltir ar hyd y promenâd ddydd Sadwrn gŵyl banc. Gydag anogaeth cefnogwyr a’r dorf gŵyl banc, cwblhaodd y grŵp yr her mewn wyth awr. Gan ddechrau ar ochr ddeheuol promenâd Aberystwyth am 9am, symudodd y tîm fel lindysyn at y man gorffen ar yr ochr ogleddol, gan gwblhau’r gamp trwy gicio’r bar enwog wrth droed Craig-glais.

the veterans were joined by local MP Ben Lake (seen centre) for part of the challenge

Cododd yr her y swm gwych o £770 ar gyfer ward plant Angharad, ac mae’r arian yn dal i lifo i mewn. Yn symud y casgenni a’r planciau yr oedd Kristian Jones (cyn-aelod o Gatrawd yr RAF), Mark Richards (cyn-aelod o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig), Gronwy Quinn (cyn-aelod o’r Cymry Brenhinol), Is-gorporal George Martin (y Peirianwyr Brenhinol), Dorothy Jones a Chapten Colin Jones MBE (cyn-aelodau o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a’r Cymry Brenhinol).

Ymunodd yr AS lleol, Ben Lake yn yr hwyl – gan dreulio awr ar y planciau a symud 150 metr.

team members (from left) George Martin (Royal Engineers), Kristian Jones (ex-RAF Regiment), and Gronwy Quinn (ex-Royal Welsh)

Mentor Cymheiriaid Lluoedd Arfog Ceredigion, Colin Jones a drefnodd y digwyddiad, gyda chymorth yr is-bwyllgor, Kelvin Jones, George Barrat a Dorothy Jones.

Dywedodd Colin: “Roeddem am gefnogi elusennau lleol, a pha ffordd well na thrwy godi arian ar gyfer y ward plant yn Ysbyty Bronglais.

“Ar ôl blynyddoedd o wasanaethu yn rôl milwyr cyffredin mae Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yn credu’n gryf mewn cefnogi’r gymuned leol, ac rydym bob amser yn barod am her ac yn meddwl y tu allan i’r bocs. Goroesodd y tîm wyth awr o laddfa ailadroddus, ond roedd bob amser yn benderfynol o groesi’r llinell derfyn a chicio’r bar.”

Dywedodd y tîm ei fod am ddiolch i’r Cadetiaid Môr lleol, Holly, Alice a Shaun am eu cymorth gyda’r bwcedi casglu, i The Hut a PD’s Diner am eu lletygarwch, ac i bawb a fu’n cymeradwyo ac yn cyfrannu.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle