Llety Arall yn ail-agor ei drysau i ymwelwyr

0
280

Mae Llety Arall, menter gymunedol yng Nghaernarfon, sy’n darparu llety i ymwelwyr y dref yn agor ei drysau eto.

Mae ystafelloedd y fenter bellach ar gael eto i deuluoedd, cyplau a theithwyr unigol sy’n dod i Gaernarfon ar eu gwyliau neu i ymweld â’r teulu yn yr ardal. Wrth i’r cyfyngiadau lacio ymhellach, mae cyfle i ymwelwyr aros am dair noson neu fwy. Gyda’r 7 ystafell ar 2 lawr yr adeilad bydd modd gwneud hyn yn ddiogel.

“Rydym yn falch iawn o gael croesawu ymwelwyr eto. Ac rydym yn gwneud pob dim i sicrhau bod ein hymwelwyr yn ddiogel. Cadw pawb yn ddiogel – ymwelwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned ehangach – yw’r peth pwysicaf i ni.” medd Selwyn Jones, cadeirydd Llety Arall.

Amcan gwreiddiol Llety Arall oedd cynnig llety fforddiadwy nid yn unig i deuluoedd, cyplau ac unigolion – yn arbennig felly unrhyw un sydd â diddordeb yn iaith, treftadaeth a diwylliant bywiog ac unigryw Caernarfon – ond hefyd i grwpiau o deithwyr, gan estyn gwahoddiad arbennig i grwpiau o ddysgwyr Cymraeg wedi’i deilwra i anghenion y grŵp. Ond fel nifer o fusnesau eraill roedd yn rhaid addasu’r cynnig yn sgil Covid-19. Mae’r fenter yn gobeithio croesawu grwpiau o ddysgwyr i Gaernarfon unwaith eto yn y dyfodol, ac mae croeso i unrhywun sydd eisiau sgwrs bellach am ddod â grŵp i gysylltu â ni i drafod eu cynlluniau.

“Caernarfon ydy tref Gymreiciaf y byd ac felly yn lle perffaith i ymdrochi yn yr iaith a chael blas ar fywyd sy’n naturiol yn Gymraeg. Yma cewch chi’r profiad unigryw o wneud popeth yn Gymraeg.” medd Dani Schlick, aelod bwrdd Llety Arall.

Fel dywedodd Siân ymwelydd o Landysul

Wedi mwynhau yn FAWR – Llety cyfforddus, glân a chroesawus. Dwli ar Gaernarfon!

Mae gwesteion Llety Arall yn aros mewn adeilad a adnewyddwyd i fod mor amgylcheddol glên â phosib, gan ddefnyddio deunyddiau, gweithwyr a chyflenwyr mor lleol â phosib. Gosodwyd paneli cynhyrchu trydan ar do’r adeilad, ac mae’r fenter yn parhau i gefnogi busnesau lleol o ddydd i ddydd. Mae ei hymwelwyr felly hefyd yn cefnogi’r economi leol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle