Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn galw ar benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain i lenwi arolwg ynglšn ââu profiadau yn ystod y pandemig Covid-19.
Wediâi gefnogi gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, ac Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, bydd canfyddiadauâr arolwg yn helpu ymchwilwyr i ddarparu gwybodaeth syân seiliedig ar dystiolaeth am heriau ac effeithiau pandemig Covid-19 ar staff arweinyddiaeth mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Yn gyffredinol, maeâr arolwg yn ceisio archwilio effaith y pandemig ar iechyd penaethiaid ac uwch aelodau staff arwain, eu sefyllfa waith, aâr gofynion a osodwyd arnynt.
Bydd Prifysgol Abertawe yn gweithio ochr yn ochr â thimau ym Mhrifysgol Newcastle, Prifysgol South Bank Llundain a Phrifysgol Caledonian Glasgow i gasglu a chymharu data ledled y Deyrnas Unedig.
Bwlch mewn tystiolaeth
Er bod gwaith ymchwil wedi cael ei gynnal yng Nghymru syân archwilio effaith cau ysgolion ar ddisgyblion ac athrawon, mae bwlch yn y dystiolaeth syân archwilio effeithiauâr pandemig ar benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain mewn ysgolion.
Dywedodd Dr Emily Marchant, Ymchwilydd Arweiniol yr astudiaeth:
âMaeâr pandemig wedi creu aflonyddwch digynsail ym myd addysg. Buân rhaid i benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain addasu amgylcheddau dysgu ac arferion gwaith yn gyflym â mae hyn wedi gofyn am wneud penderfyniadau, arweinyddiaeth a rheolaeth i fynd iâr afael ââr heriau niferus a wynebwyd.
âByddwn yn rhannu canlyniadau ein harolwg gyda chyfranogwyr, aâr rhai syân gwneud penderfyniadau am bolisĂŻau ac arferion, i helpu i ddatblygu dealltwriaeth well oâr heriau a wynebwyd, y prif feysydd pryder aâr hyn y gellir ei wneud i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.â
Rhan o Rwydwaith Rhyngwladol
Maeâr timau ymchwil yn y Deyrnas Unedig yn rhan o rwydwaith rhyngwladol o fwy na 100 o ymchwilwyr o 50 o wledydd wediâu lleoli ar bum cyfandir. Maeâr Rhwydwaith COVID-HL yn ddull cydweithredol sydd wediâi seilio ar y syniad o gynhyrchu gwybodaeth/tystiolaeth ar y cyd aâi dosbarthuân agored.
Dywedodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth:
âMae bod yn rhan oâr Rhwydwaith COVID-HL yn caniatĂĄu i ni gyfrannu a lleoli ein hunain yn Y gymuned ymchwil ryngwladol â gan gryfhau cyfranogiad Cymru mewn gwaith ymchwil iechyd a lles byd-eang aâi heffaith arno.
âBydd y Rhwydwaith yn caniatĂĄu i ni gael mynediad at ddata rhyngwladol cymaradwy aâr cyfle i fesur a dehongli nodweddion tebyg a gwahanol yn y maes ymchwil hwn o bob rhan oâr byd.â
Gellir llenwiâr arolwg fel y mae neu fel dau arolwg byr. Llenwch yr arolwg yma.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle