PLANED yn Dathlu Treftadaeth Gymunedol Ar-lein

0
302

Gyda llawer o bobl yn ailgydio mewn treftadaeth a hanes eu milltir sgwâr yn ystod y cyfnod clo, mae PLANED wedi penderfynu creu dathliad o hanes lleol ar y cyd â grwpiau ac unigolion yn Sir Benfro a sefydlu’r Wythnos Dreftadaeth Gymunedol Sir Benfro gyntaf erioed.

Oherwydd canllawiau COVID, cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ar-lein a chafodd ei lansio gyda darllediad byw’n uniongyrchol o Faenor Scolton dros benwythnos Gŵyl y Banc y Gwanwyn. Cafodd ystod o gynnwys ar-lein ei rannu yn ystod yr wythnos. 

Dywedodd Prif Weithredwr PLANED, Iwan Thomas “Roedd creu’r wythnos ar-lein hon, yn dathlu’r dreftadaeth leol orau yn ein cymunedau yma yn Sir Benfro yn bartneriaeth o ymdrechion go iawn. Mae ein tîm ni yma yn PLANED wir yn deall sut mae cymunedau’n gweithio, ac rydym yn cael ein harwain ganddynt yn lleol o ran sut allwn ddathlu orau a hyrwyddo’r asedau, y straeon a’r arteffactau sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw.”

Gydag ystod o bodlediadau, ffilmiau, straeon fideo byr a chwis hanes byw ar-lein, mae pob un o’r 21 o eitemau cychwynnol o gynnwys ar gael ar-lein i bawb eu defnyddio a’u rhannu.

Un uchafbwynt amlwg yw ffilm a gomisiynwyd yn arbennig gan Gymdeithas Hanes Lleol Llangwm. Mae “Born of the Cleddau” yn mynd â gwylwyr ar daith ar hyd Aber Cleddau ac yn rhoi mewnwelediad diddorol i ystod eang o faterion hanesyddol, gan gynnwys smyglo, môr-ladrad, masnach afonydd, trychineb Mwyngloddio Pwll Gardd, cychod hedfan a mwy.  

Gan adlewyrchu ar lwyddiannau’r wythnos, dywedodd Stuar Berry, Cydlynydd Diwylliant a Threftadaeth PLANED: “Mae’r llwyddiant o sicrhau dros 1,000 o ymwelwyr mewn dim ond 5 diwrnod i’n cynnwys ar YouTube yn arddangos sut all y flwyddyn gyntaf hon arwain at ddatblygu’r digwyddiad i fod yn un llawer mwy sy’n llwyr gwmpasu hanes a threftadaeth anhygoel ein sir y flwyddyn nesaf. Rydym wir yn gobeithio y gallwn ysbrydoli sefydliadau eraill a grwpiau treftadaeth gymunedol gwych. Rydym hefyd yn gobeithio y gall yr wythnos ddod yn llwyfan i ddathlu’r gwaith sy’n digwydd mewn cymunedau, a chyrraedd mwy o bobl wrth rannu stori gorffennol Sir Benfro.”

Mae cynnwys y Rhaglen ar gael i’w weld ar-lein ar wefan Echoes of the Past www.echoeswales.cymru sef llwyfan PLANED ar gyfer treftadaeth a diwylliant lleol.   

Anogir unrhyw un sy’n awyddus i gymryd rhan wrth hyrwyddo ei hanes a threftadaeth leol gysylltu â thîm PLANED.  

www.echoeswales.cymru  /  information@planed.org.uk 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle