Am 11 o’r gloch ar 12 Mehefin, bydd y Rheolwr Gorsaf Dave Latham, ynghyd â thĂŽm cymorth bach, yn ymgymryd â’r her arwrol o ddringo’r Wyddfa, nid unwaith, ond cymaint o weithiau ag y gallant mewn 24 awr!
Gan gadw at y canllawiau cyfredol o ran COVID-19, bydd aelodau eraill o’r Gwasanaeth yn ymuno â nhw hefyd i’w cefnogi trwy gydol y digwyddiad, yn ogystal ag i gyflawni eu heriau unigol eu hunain.
Bydd y Rheolwr Gorsaf Latham a’r tĂŽm yn ymgymryd â’r her arwrol hon i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân, sefydliad sy’n cynnig cymorth arbenigol gydol oes i aelodau o gymuned gwasanaethau tân y DU, sy’n cynnwys personĂŠl cyfredol a phersonĂŠl wedi ymddeol, a’u teuluoedd.
Dywedodd y Rheolwr Gorsaf Dave Latham, âYn dilyn yr amseroedd anodd yr ydym i gyd wedi bod trwyddynt, mae ar elusen y Diffoddwyr Tân angen ein cymorth ‘nawr fwy nag erioed. Mae’r pandemig wedi golygu bod digwyddiadau elusennol a chodi arian wedi cael eu canslo, sydd wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y rhoddion i’r elusen, a dyma, felly, un o’r nifer o resymau dros y digwyddiad codi arian hwn.
Parhaodd trwy ddweud, âBydd hon yn her aruthrol i bawb dan sylw, ond rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld sawl gwaith y gallwn ddringo’r mynydd hwn yn yr amser a fydd gennymâ.
Os hoffech gyfrannu at y digwyddiad codi arian hwn, ewch i’r dudalen Just Giving YMA â derbynnir pob rhodd yn ddiolchgar iawn, ni waeth pa mor fach.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle