“Cefnogi Cymru drwy gael gwyliau gartref eleni” – Y Gweinidog Iechyd

0
446

Wrth i Gymru gychwyn eu hymgyrch Ewro 2020 heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog pobl i fynd ar wyliau gartref yr haf hwn.
Ail-ddechreuodd teithio rhyngwladol ym mis Mai ond mae rheolau llym ar waith i leihau’r risg o’r Coronafeirws – ac amrywiolion newydd o’r feirws – rhag dod i mewn i’r DU. Mae hyn yn golygu y bydd teithio’n wahanol iawn nag yr oedd cyn y pandemig.

Mae Cymru’n dilyn yr un dull goleuadau traffig â gweddill y DU ar gyfer teithio rhyngwladol. Dosberthir gwledydd fel rhai gwyrdd, ambr a coch yn dibynnu ar eu statws iechyd cyhoeddus a chyfraddau brechu. Dim ond llond llaw o gyrchfannau sydd â statws gwyrdd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Dyma’r flwyddyn i fwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig – gan gynnwys y tywydd – a gwyliau gartref.

“Rydym yn annog pawb i deithio dramor am resymau hanfodol yn unig. Rydym i gyd wedi gweithio mor galed dros fisoedd y gaeaf i reoli’r Coronafeirws yng Nghymru, tydy ni ddim am weld achosion newydd ac amrywiolion newydd yn dod i mewn i’r wlad drwy deithio dramor.

“Mae gennym raglen frechu o’r radd flaenaf ac mae mwy nag wyth o bob 10 oedolyn wedi cael eu dos cyntaf ond ni allwn fod yn rhy fodlon.

“Nawr yn fwy nag erioed mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gadw Cymru’n ddiogel, rheoli lledaeniad y Coronafeirws, yn enwedig yr amrywiolyn delta newydd a diogelu’r enillion rydyn ni wedi’u gwneud.”

Yn unol â chenhedloedd eraill y DU, efallai y bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n teithio dramor yr haf hwn dalu am brofion, cwarantin gartref neu mewn gwesty dynodedig y tu allan i Gymru neu ddangos prawf o statws brechu llawn, yn dibynnu ar ble maent yn teithio iddo neu’n dychwelyd ohono.

Rhaid i bobl sy’n cyrraedd o wledydd rhestr goch fod mewn cwarantin am 10 diwrnod mewn cyfleuster dynodedig, gyda phrofion PCR gorfodol ar ddiwrnodau dau ac wyth, ar eu cost eu hunain, neu wynebu dirwy o £10,000.

Rhaid i bobl sy’n dychwelyd o wledydd ambr fod mewn cwarantin gartref am 10 diwrnod a thalu am brofion PCR gorfodol ar ddiwrnodau dau ac wyth o’r cyfnod cwarantîn.

Ni fydd angen i unrhyw un sy’n dychwelyd o wledydd gwyrdd fod mewn cwarantîn ond rhaid iddynt gymryd a thalu am brawf PCR ar neu cyn diwrnod dau. Bydd teithwyr sy’n cyrraedd o wledydd ar y rhest ambr neu wyrdd yn cael cyswllt rheolaidd ac yn cael cynnig cymorth i’w helpu i gydymffurfio â’r gofyniad profi ac ynysu, gan gynnwys ymweliadau ar garreg yr aelwyd.

Aeth Ms Morgan ymlaen i ddweud:

“Bydd y camau rydym yn gofyn i deithwyr eu cymryd yn helpu i ddiogelu iechyd pawb drwy atal y Coronafeirws ac unrhyw amrywiolion newydd sy’n dod yn ôl i’r wlad.

“Mae’r rhain yn fesurau angenrheidiol ond nid ydynt yn ddi-fai – gallwn roi mesurau ar waith i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â theithio rhyngwladol ond nid ydynt yn diflannu.

“Os nad oes angen i chi deithio, mae’n well aros gartref.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle