Mae gweithwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am eu gwasanaeth rhagorol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Bu galw aruthrol am ddata cyhoeddus yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae SYG wedi bod wrth wraidd hyn i gyd. O gynaeafu data symudedd Google ar y we i gyflwyno arolygon newydd fel Arolwg Heintiadau COVID-19, i gyhoeddi allbynnau rheolaidd yn olrhain marwolaethau. Mae’r holl waith wedi bod yn hollbwysig.
Dyfarnwyd OBE i Myer Glickman am ei wasanaeth rhagorol ym maes Dadansoddi Iechyd dros yr 20 mlynedd diwethaf, a dyfarnwyd MBE i’w gydweithiwr Sarah Caul am chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu ystadegau hollbwysig ar farwolaethau sydd eu hangen er mwyn helpu i fonitro a deall effaith COVID-19.
Gan longyfarch y gweithwyr, dywedodd yr Ystadegydd Gwladol Syr Ian Diamond: “Rwy’n falch iawn bod Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines wedi cydnabod pobl o SYG ac mae hyn yn dyst i ymroddiad, arloesedd a gwaith caled ein gweithwyr drwy gydol y cyfnod hwn.
“Mae COVID-19 wedi effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd, boed hynny drwy golli anwyliaid neu’r effaith y mae wedi’i chael ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Rwyf wedi bod yn falch iawn o’r gwaith y mae ein holl weithwyr wedi’i gyflawni drwy gydol y pandemig a’r gwaith y maent yn parhau i’w wneud.”
Yn ystod ei 20 mlynedd gyda SYG, mae Myer wedi chwyldroi’r gwaith o ddadansoddi marwolaethau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi dylunio dulliau sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddeall anghydraddoldebau a phatrymau marwolaeth. Ar ddechrau 2020, gwnaeth Myer gydnabod arwyddocâd cynyddol y coronafeirws (COVID-19) cyn i’r pandemig gyrraedd y Deyrnas Unedig. Sicrhaodd fod systemau, gweithdrefnau a chynlluniau wrth gefn ar waith fel y gallai prosesau dadansoddi iechyd barhau, a defnyddiodd ei arbenigedd i ddylunio a darparu dadansoddiad marwolaethau COVID-19 o ansawdd uchel a helpodd i arwain ymateb y llywodraeth.
Dywedodd Myer, sy’n 58 oed o Bont-y-pŵl: “Mae’n fraint derbyn y wobr hon ond, mewn gwirionedd, mae hyn yn cydnabod y gwaith pwysig iawn y mae’r tîm cyfan wedi’i wneud yn ystod cyfnod digynsail. Bu’n rhaid i ni weithio dan bwysau a gydag effaith genedlaethol uniongyrchol, nad yw’r un ohonom erioed wedi’i phrofi o’r blaen, ac rydym wedi gwneud hynny gyda’n gilydd.”
Bu galw aruthrol am ddata cyhoeddus yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae’r pennaeth dadansoddi marwolaethau, Sarah Caul, wedi bod wrth wraidd hyn, gan arwain set ddata wythnosol nad oedd neb yn gwybod llawer amdani a ddaeth yn un o’r dogfennau pwysicaf ac a ddefnyddiwyd fwyaf i olrhain marwolaethau drwy gydol y pandemig.
Dywedodd Sarah, sy’n 30 oed o Gaerdydd: “Mae’n fraint derbyn y wobr hon ac rwyf wrth fy modd bod y gwaith rwyf i a fy nghydweithwyr wedi’i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf yn cael ei gydnabod.
“Bu’n flwyddyn heriol, ond rwy’n falch fy mod i wedi bod yn rhan o gynhyrchu gwybodaeth mor bwysig er mwyn helpu i ddeall effaith COVID-19.”
Yn y cyfamser, mae eu cydweithiwr yn Hampshire, Sue Reeves, wedi cael MBE am ei gwasanaeth rhagorol ym maes anableddau, amrywiaeth a chynhwysiant.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle