Penodwyd Shavanah Taj yn Ysgrifennydd Cyffredinol parhaol TUC Cymru. Mae hi wedi gwasanaethu yn y rôl dros dro ers mis Chwefror 2020 ac mae hi wedi arwain y mudiad undebau yng Nghymru drwy argyfwng Covid-19.
Shavanah yw Ysgrifennydd Cyffredinol BAME cyntaf TUC Cymru. Ymunodd o’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), lle’r oedd yn Ysgrifennydd Cymru o 2013.
TUC Cymru yw’r corff ambarél ar gyfer yr undebau llafur ac mae’n cynrychioli 48 o undebau cysylltiedig a 400,000 o aelodau undebau llafur yng Nghymru.
Yn ogystal â hyn, bydd gan Shavanah rôl i’w chwarae ledled y DU i arwain ymgyrch TUC i gynyddu nifer y cynrychiolwyr BAME sydd yn y mudiad undebau, ochr yn ochr â thasglu gwrth-hiliaeth TUC.
Mae’n cymryd yr awenau gan Martin Mansfield a ddaliodd y swydd am 12 mlynedd o 2008 ymlaen.
“Mae gan ein mudiad undebau llafur rôl hollbwysig i’w chwarae i sicrhau ein bod yn adeiladu Cymru well a thecach wrth i ni adfer ar ôl pandemig Covid. Rydw i wrth fy modd y bydda i’n gallu chwarae fy rhan fel Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Mae’r argyfwng dros y flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau dwfn yn ein cymdeithas. Unwaith eto, gweithwyr BAME, gweithwyr dosbarth gweithiol a gweithwyr ifanc sydd wedi wynebu’r caledi mwyaf.
“Ond rydw i’n credu bod y pandemig hefyd wedi agor llygaid llawer o bobl. Ac mae awydd cynyddol am newid go iawn. Fel undebau llafur, mae angen i ni fanteisio ar y cyfle i adeiladu, tyfu ac ennill ar faterion allweddol sy’n bwysig i weithwyr.
“Mae gennym ni agenda uchelgeisiol ac ymarferol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, ochr y cyflogwr a phartneriaid cymdeithasol ehangach i ddarparu gwaith teg i weithwyr ledled Cymru.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle