Dŵr Cymru’n ymuno yn ymgyrch ‘Ras i Sero’ y Cenhedloedd Unedig

0
290
Dŵr Cymru'n ymuno yn ymgyrch 'Ras i Sero' y Cenhedloedd Unedig: H21023-1400x425px Linked-In AW-2
  • Mae’r cwmni dŵr nid-er-elw wedi ymuno’n swyddogol ag ymgyrch fyd-eang y Ras i Sero cyn cynhadledd hinsawdd COP26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow.

  • Daw’r cyhoeddiad yn sgil ymrwymiad Dŵr Cymru i ddod yn gwmni ag allyriannau carbon net o sero yn gynharach yn y mis.

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi ymuno â’r Ras i Sero yn rhan o Water UK, sy’n cynrychioli’r sector dŵr fel partner swyddogol yn yr ymgyrch. Nod yr ymgyrch fyd-eang yw sbarduno arweinyddiaeth ar draws busnesau, dinasoedd, rhanbarthau a buddsoddwyr y byd er mwyn sicrhau adferiad iach, gwydn, di-garbon.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn ategu ymateb uchelgeisiol a rhagweithiol y cwmni at argyfwng yr hinsawdd. Yn gynharach yn y mis, cyhoeddodd Dŵr Cymru gynlluniau i leihau allyriannau carbon gweithredol a chyfalaf i sero-net erbyn 2040, gan gynnwys ymrwymiad i fod 35% yn hunangynhaliol o ran ynni erbyn 2025, a chynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy er mwyn gwireddu annibyniaeth lwyr o ran ynni erbyn 2050.

Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, nod y cwmni yw cwtogi 90% ar gyfanswm ei allyriannau carbon erbyn 2030. Er mwyn trawsnewid gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, mae’r cwmni wedi neilltuo cyllideb uwch nag erioed o dros £80 miliwn i gyflawni gwaith ymchwil ac arloesi dros y pum mlynedd nesaf.  Rhwng nawr a 2040, mae’n bwriadu arloesi yn ei ddulliau o harneisio byd natur trwy ei gynllun bioamrywiaeth, adfer tir mawn, trin gwlyptiroedd a rheoli dalgylchoedd.

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru:

“Rydyn ni wrth ein boddau i gael ymuno â’r Ras i Sero ac rydyn ni’n edrych ymlaen ar gael gweithio gyda’r sector a rhannu dysg ar y siwrnai i allyriannau net o sero. Fel cwmni sydd mewn perchnogaeth ar ran ein cwsmeriaid, rydyn ni’n gwybod bod yr amgylchedd yn bwysig iddynt ac rydyn ni’n falch o’n cynlluniau amgylcheddol uchelgeisiol. Fel un o brif gwmnïau Cymru, mater o gymryd cyfrifoldeb dros reoli sialens fwyaf ein hoes yw ein targed yn nhermau’r newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar y tymor hir a sicrhau ein bod ni’n helpu i amddiffyn ein cwsmeriaid, ein cymunedau a’r amgylchedd lleol, a’n bod ni’n creu dyfodol gwell ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.” 

Dywedodd Christine McGourty, Prif Weithredwr Water UK:

“Rydw i wrth fy modd fod Dŵr Cymru wedi dod yn aelod o’r Ras i Sero, a hoffwn eu llongyfarch ar eu cynlluniau uchelgeisiol i gyflawni allyriannau sero-net erbyn 2040.

“Mae hi’n bwysig bod busnesau blaenllaw fel Dŵr Cymru’n cymryd cyfrifoldeb ac yn mynd ati o ddifri i gynllunio i helpu cwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd ehangach er mwyn creu dyfodol gwell ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, bydd eu cynlluniau i fod 100% yn hunan-gynhaliol o ran ynni erbyn 2050 yn chwarae rhan bwysig yn ymdrechion y wlad i daclo argyfwng yr hinsawdd.

“Gyda COP26 ar y gorwel, rwy’n credu y gall y diwydiant dŵr fynd ymhellach ac yn gynt gyda’n gilydd ar y siwrnai hanfodol yma i sero-net ac mae’r achlysur yn gyfle gwych i gwmnïau gydweithio, datblygu arferion gorau a rhannu eu dysg er mwyn cyflawni ar y sialens sero-net.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle