Help i ddysgwyr gymryd eu camau nesaf wrth i Gymru symud ymlaen

0
258
Jeremy Miles, the Minister for Education

Cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gynllun Adnewyddu a Diwygio Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg heddiw (dydd Mercher, 16 Mehefin).
Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio £150m o fuddsoddiad ychwanegol yn 2021-22 i barhau i gefnogi dysgwyr, athrawon a staff ar bob lefel i helpu i adfer y system addysg yng Nghymru yn dilyn y pandemig.

Mae’r cynllun yn ceisio mynd i’r afael â phedair her allweddol, sef:

  • helpu dysgwyr i ddatblygu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu
  • cynorthwyo dysgwyr i barhau i wneud cynnydd
  • cefnogi ymarferwyr ar gyfer eu llesiant eu hunain
  • parhau i symud tuag at ddiwygio mewn addysg.

Mae’r cynlluniau’n barhad o’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys:

  • £33m i gefnogi dysgwyr amser llawn rhwng 16 a 19 oed sy’n dechrau cyrsiau Safon Uwch neu ddarpariaeth alwedigaethol naill ai mewn chweched dosbarth neu goleg AB
  • £24m i barhau i gefnogi a mentora dysgwyr drwy’r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gan gadw’r 1800 o staff cyfwerth ag amser llawn a gafodd eu recriwtio ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021
  • £23.2m o gyllid ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol, gan olygu y bydd dros £110 miliwn yn cael ei wario ar brydau ysgol am ddim yn 2021-2022
  • £15m ar gyfer technoleg addysgol mewn ysgolion drwy raglen Technoleg Addysg Hwb, i wella seilwaith digidol mewn ysgolion a gynhelir

Dywedodd y Gweinidog: “Hoffwn ddiolch i’r holl staff mewn ysgolion, colegau a lleoliadau, am eu hymrwymiad a’u hymroddiad.

“Cydnabuwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyflym yn ystod y pandemig i gefnogi dysgwyr. Mae’r cynllun sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn nodi sut y byddwn yn parhau i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr ar draws pob lleoliad; yn enwedig y rhai difreintiedig ac agored i niwed, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ddysgwyr blynyddoedd cynnar ac ôl-16.

“Rydym hefyd yn sicrhau bod y proffesiwn addysgu yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud y gwaith y maent yn y sefyllfa orau i’w wneud.”

Ychwanegodd y Gweinidog; “Mae egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn sail i’n holl waith wrth barhau â’n hadferiad o’r pandemig, gan gynnwys y cynllun Adnewyddu a Diwygio. Mae’r pandemig wedi dangos y gwydnwch a’r hyblygrwydd rhyfeddol o fewn y sector, a rhaid inni ddysgu o hynny.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda gweithwyr addysgu proffesiynol a’n partneriaid addysg ehangach, i ddatblygu ein hymateb i’r pandemig wrth i ni symud tuag at ddiwygio’r cwricwlwm.

Mae’r cynllun yn cael ei arwain gan dystiolaeth a phrofiadau’r rhai dan sylw, a nifer o astudiaethau achos sy’n asesu effaith y pandemig ar addysg. Mae’r pynciau sy’n cael eu trafod ynddo yn cynnwys yr effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg; dysgu cyfunol a dysgu o bell, a lles gweithwyr proffesiynol a disgyblion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle