Swyddog Datblygu Trefi Gwledig
Dyddiad Cau: 30/06/2021
Cyfeirnod: REQ102931
37 awr / Cyfnod Penodedig
24,982 – 27,041 *
Penmorfa, Aberaeron
Ynglŷn â’r rôl
Rydym am recriwtio Swyddog Datblygu Trefi Gwledig i ymuno â’n Gwasanaeth Adfywio ac Economi ar gytundeb amser llawn am dymor penodol, wedi’i leoli yn ein swyddfa yn Aberaeron.
Mae hon yn swydd newydd, gyffrous yn y gwasanaeth, er mwyn cynorthwyo yn y broses o adfywio trefi gwledig a chymunedau pellennig Ceredigion. Os oes gennych brofiad mewn meysydd fel adfywio, gwaith cymunedol, datblygu economaidd a busnes, gallai hyn fod yn gyfle i chi. Byddwch yn cyfrannu at y broses o ddatblygu dyfodol cymunedau ledled y sir, gan ategu uchelgais y Cyngor o greu trefi sy’n llefydd ffyniannus, sy’n canolbwyntio ar bobl ac yn gydnerth. Disgwylir i chi gael proffil lleol amlwg i ysgogi a meithrin perthnasoedd cadarnhaol â phobl leol a chefnogi lleoedd sy’n diwallu anghenion a dyheadau’r gymuned.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
- Cydlynu, hwyluso a rheoli’r modd y darperir gweithgaredd adfywio i gefnogi adferiad ardaloedd gwledig Ceredigion.
- Hwyluso ymgysylltiad, cyfranogiad a mentora ystod o sefydliadau yn y sectorau cymunedol, cyhoeddus a phreifat i gynorthwyo gyda datblygu eu gweithgareddau.
- Hwyluso’r broses o ddwyn ymlaen a chyflwyno gweithgareddau LEADER posib (gan weithio ar y cyd â sefydliadau llawr gwlad) i Gr”{p Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (GGLl).
- Trefnu a hwyluso digwyddiadau ymgynghori, rhwydweithio a hyrwyddo.
- Gweithio gyda sefydliadau a busnesau lleol i gael mynediad at gyfleoedd cyllido eraill sy’n briodol i’w hanghenion.
Rydym am recriwtio unigolyn gyda:
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gan gynnwys y gallu i ffurfio perthnasoedd gwaith adeiladol gydag unigolion a sefydliadau yn y sector cymunedol, cyhoeddus a phreifat.
- Y gallu i feddwl yn arloesol ac yn strategol.
- Profiad o weithio mewn partneriaeth a datblygu cyfleoedd cydweithredol.
- Sgiliau mentora ac eiriolaeth da.
- Sgiliau cyfathrebu / cyflwyno sy’n briodol i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Brwdfrydedd dros weithgareddau yn y gymuned.
- Y gallu i weithio’n hyblyg, arddangos eich menter eich hun a gweithio’n rhagweithiol.
Ariennir y swydd hon drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Meleri Richards Meleri.richards@ceredigion.gov.uk
Cynhelir cyfweliadau: 8 Gorffennaf 2021.
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i’r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
- Economi ac Adfywio
- Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo. Ein prif swyddogaethau yw:
- Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
- Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
- Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
- Penmorfa
- Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a’n Cynghorwyr wedi’i leoli.
Darllen mwy - Aberaeron
- Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae’n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle