Gydag ymchwil diweddar yn dangos fod perygl gwirioneddol i genhedlaeth o ferched roi’r gorau i chwaraeon, mae Urdd Gobaith Cymru, gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru, yn lansio’r prosiect cenedlaethol #FelMerch er mwyn taclo’r broblem.
O lansio #FelMerch heddiw (dydd Iau, 17 Mehefin 2021), nod yr Urdd yw sicrhau bod pob merch a menyw ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon hamdden, beth bynnag fo’u gallu neu brofiad, wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio ac i’r dyfodol.
Yn ôl ymchwil newydd gan Always nid yw mwy na hanner (55%) o ferched yn eu harddegau yn cadw’n heini, gyda thri chwarter ohonynt (75%) yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth i’w cadw mewn chwaraeon. Mae ymchwil gan Chwaraeon Cymru hefyd yn dangos fod y pandemig wedi arwain at fwy o fenywod yn adrodd eu bod yn gwneud llai o chwaraeon, yn ogystal â theimlo’n euog am beidio â chadw’n heini, ac yn poeni am adael y tŷ.
Prif nod #FelMerch yw ysbrydoli, cefnogi ac ymbweru merched 14-25 oed i gadw’n actif a chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gyflawni’r canlynol:
- Cynnal gweithgareddau wythnosol cynhwysol, wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.
- Sefydlu fforymau rhanbarthol a chenedlaethol.
- Penodi Llysgenhadon er mwyn ysbrydoli eraill, gan gynnwys Llysgenhadon cenedlaethol fel maswr tîm merched Cymru a Bryste, Elinor Snowsill.
- Darparu rhaglenni arweinyddiaeth.
- Sefydlu hybiau cymunedol yn ystod gwyliau.
- Trefnu cynhadledd genedlaethol er mwyn rhannu llwyddiant a syniadau.
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, Dawn Bowden AS yn croesawu’r cyhoeddiad:
“Rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy i gau’r bylchau sy’n bodoli rhwng dynion a merched pan mae hi’n dod i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, a chanolbwyntio ar ddarparu mwy o gyfleoedd o ansawdd i ferched a menywod ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon. Rwy’n falch iawn o gefnogi prosiect Urdd Gobaith Cymru “#FelMerch”; bydd ganddo ran bwysig i’w chwarae wrth annog cyfranogiad merched mewn gweithgareddau chwaraeon, waeth beth fo’u gallu, ac wrth greu amgylcheddau diogel i wneud hynny.”
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae cadw’n heini a chymryd rhan mewn chwaraeon yn gwella iechyd meddwl yn ogystal â chorfforol, yn codi hyder a hunan-barch, ac yn medru arwain at gyrhaeddiad addysgol hefyd. Felly rydym yn benderfynol o sicrhau fod digon o gyfleoedd gan ferched Cymru i ymwneud â chwaraeon, a hynny o fewn gofod diogel, gan gynnwys darparu sesiynau ymarfer ar-lein sy’n diwallu eu hanghenion.”
Ychwanega Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Mae ehangu apêl gwneud ymarfer corff a chwaraeon i ferched a menywod, yn ogystal â deall y rhwystrau sy’n atal cyfranogiad, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Byddwn yn cefnogi ymdrechion yr Urdd i adeiladu ar y cynnydd da a oedd yn cael ei wneud cyn pandemig ac i feddwl yn greadigol wrth ddatblygu cyfleoedd o ansawdd uchel i ferched a menywod eu mwynhau.
“Yn naturiol ddigon bydd rhai unigolion yn bryderus wrth ddychwelyd i wneud gweithgareddau ochr yn ochr ag eraill, felly hoffwn roi sicrwydd i unrhyw un sy’n teimlo’n bryderus bod llawer iawn o waith wedi’i wneud i sicrhau fod gweithgareddau yn ddiogel a chroesawgar. Mae mwy na 1,000 o glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru wedi elwa o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i’w galluogi i wneud addasiadau a chyflwyno ystod o fesurau i gadw unigolion yn ddiogel.”
Cynhelir lansiad #FelMerch yng nghwmni Dawn Bowden AS, Siân Lewis, Sarah Powell ac Elinor Snowsill ar ddydd Iau’r 17eg o Fehefin 2021 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. I drefnu cyfweliadau cyslltwch a mali@urdd.org
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle