Cadwch yn Ddiogel yr Haf hwn!

0
300

Mid & West Wales Fire & Rescue

Wrth i dymor yr haf prysur agosáu mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn barod gydag awgrymiadau gwych a chyngor hanfodol ar ddiogelwch i sicrhau eich bod yn cael haf diogel. Mae’r tywydd cynhesach yn cynnig cyfleoedd gwych i fwynhau traethau a chefn gwlad lleol, i gymryd y gwyliau gartref neu’r gwyliau bellach i ffwrdd hirddisgwyliedig hynny gyda’ch ffrindiau neu eich teulu, neu i wneud y gorau o’r tywydd a threulio amser yn eich gardd.

Dywedodd Mydrian Harries, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol:

“Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig lleoliadau gwych i dreulio eich haf, p’un a yw’n encil arfordirol neu’n wersylla yn y bryniau. Wrth i gyfyngiadau COVID-19 ddechrau llacio, ni fu treulio amser y tu allan a gallu teithio a dal i fyny gyda’n teuluoedd erioed yn bwysicach. Mae eich cadw chi a’ch teulu’n ddiogel yn allweddol i sicrhau ein bod i gyd yn cael gwyliau haf gwych.”

Mae ein gwefan yn cynnig cyngor hanfodol ar ddiogelwch ar gyfer gwersylla, barbeciws, dŵr yn ogystal â chyngor ar aros yn ddiogel ar ein ffyrdd.

https://www.tancgc.gov.uk/diogelwchhaf

Gallwch hefyd ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o negeseuon diogelwch. Twitter @mawwfire, Facebook @mawwfire ac Instagram @mawwfire_rescue


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle