Hyd at 200 o ddiffibrilwyr i’w gosod yng ngorsafoedd rheilffordd Trafnidiaeth Cymru

0
325

Mae Trafnidiaeth Cymru ar fin gosod hyd at 200 o ddiffibrilwyr sy’n achub bywydau yn ei orsafoedd trenau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Bydd y cynllun yn golygu bod diffibrilwyr yn cael eu gosod mewn dros 80% o orsafoedd TrC dros y 18 mis nesaf. Byddant ar gael i’r cyhoedd 24 awr y dydd.

Mae diffibrilwyr yn ddyfais symudol sy’n gallu rhoi sioc drydanol i’r galon pan fydd wedi rhoi’r gorau i guro’n arferol mewn ataliad sydyn ar y galon. Mae defnyddio diffibriliwr o fewn tri munud i ataliad ar y galon yn gallu golygu bod rhywun hyd at 70% yn fwy tebygol o oroesi.

Cawsom weld eu pwysigrwydd pan ddefnyddiwyd diffibriliwr yn ystod gêm Denmarc yn erbyn y Ffindir ym Mhencampwriaethau Ewrop, pan gwympodd y chwaraewr o Ddenmarc Christian Eriksen gydag amheuaeth o ataliad ar y galon.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn wedi cydnabod ers tro byd pa mor bwysig yw diffibrilwyr fel adnodd sy’n gallu achub bywydau, felly rydyn ni’n falch iawn o fod mewn sefyllfa i osod y dyfeisiau hyn ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth ac fel rhan o’r gwaith gyda’r darparwr Aero Healthcare, bydd ein staff yn cael cynnig hyfforddiant ar sut mae defnyddio’r diffibrilwyr.

“Mae arnom eisiau i rwydwaith Cymru a’r Gororau fod y rhwydwaith mwyaf diogel yn y DU a rhan bwysig o hyn yw cael y cyfleusterau iawn yn ein gorsafoedd i helpu pobl mewn argyfwng.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr gwahanol o faes gofal iechyd ac o elusennau, sy’n ein helpu i gynllunio sut gallwn ddarparu hyfforddiant ar yr offer achub bywyd hwn, yn ddwfn i’n cymunedau.”

Bydd y diffibrilwyr hefyd yn cael eu cofrestru gyda The Circuit, sef y rhwydwaith cenedlaethol o ddiffibrilwyr a’r gwasanaeth ambiwlans.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle