Nodyn atgoffa i archebu ymlaen llaw ar gyfer atyniadau’r Parc

0
325
Capsiwn: Atgoffir ymwelwyr i archebu eu tocynnau ymlaen llaw cyn ymweld â Chastell a Melin Heli Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys.

Atgoffir aelodau’r cyhoedd i archebu eu tocynnau mynediad ymlaen llaw cyn ymweld â dau atyniad poblogaidd sy’n cael eu rhedeg gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Er mwyn cadw pellter cymdeithasol ar y safle, mae Castell a Melin Heli Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys wedi bod yn gweithredu system archebu ymlaen llaw ers yr haf diwethaf.

Capsiwn: Atgoffir ymwelwyr i archebu eu tocynnau ymlaen llaw cyn ymweld â Chastell a Melin Heli Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys.

Dylai’r rheini sy’n dymuno ymweld archebu eu tocynnau ar-lein cyn cyrraedd y safle. Mae hyn yn berthnasol i ddeiliaid Tocyn Mynediad Blynyddol a phobl eraill sy’n gymwys i gael mynediad am ddim, fel defnyddwyr cadair olwyn a gofalwyr sy’n dod gyda nhw.

Mae Castell Caeriw yn agored i ymwelwyr sydd wedi archebu ymlaen llaw rhwng 10am a 4pm (Melin Heli – rhwng 11.30am a 5pm), a gofynnir i’r rheini sy’n dymuno ymweld â Chastell Henllys archebu un ai slot bore (rhwng 10am a 1pm) neu slot prynhawn (rhwng 2pm a 5pm) cyn ymweld â’r safle.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yng Nghastell a Melin Heli Caeriw: “Dros y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r safle a’n trefniadau i sicrhau ein bod ni’n eich cadw chi, ein staff a’n cymuned leol yn ddiogel.

“Mae pob rhan o’r Castell a Melin Heli ar agor, gan gynnwys yr Ardd Furiog a’r ardal chwarae. Bydd Ystafell De Nest, sydd â digon o le i eistedd yn yr awyr agored, yn gweini cinio ysgafn a chacennau cartref ynghyd â diodydd poeth ac oer drwy gydol y dydd, ac mae Siopau’r Castell a’r Felin yn dal ar agor – er bod yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb, a dim ond taliadau cerdyn/di-gyswllt sy’n cael eu derbyn ar hyn o bryd.

Capsiwn: Atgoffir ymwelwyr i archebu eu tocynnau ymlaen llaw cyn ymweld â Chastell a Melin Heli Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys.

“Ac eithrio Ystafell De Nest, mae’n hanfodol archebu tocynnau ymlaen llaw. Rydyn ni’n gofyn i bob ymwelydd wneud yn siŵr eu bod yn archebu eu tocynnau ymlaen llaw, er mwyn osgoi unrhyw oedi neu siom pan fyddant yn cyrraedd y safle.”

Mae modd prynu tocynnau mynediad ar gyfer Castell Caeriw a Chastell Henllys drwy fynd i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Bydd rhaglen ddeinamig o ddigwyddiadau sy’n addas i’r teulu i gyd yn cael ei chynnal yn y ddau safle drwy gydol misoedd yr haf. Ewch i’r wefan uchod i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle