Uned cymorth symudol Gofal Canser Tenovus yn helpu’r bwrdd iechyd i roi brechlynnau COVID-19

0
258
Hywel Dda UHB vaccination staff at Tenovus Cancer Care's mobile support unit

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddiolch i Gofal Canser Tenovus am sicrhau bod eu huned cymorth symudol ar gael i roi brechiadau COVID-19 yn Sir Benfro.

Hysbyswyd y bwrdd iechyd fod cyfran fawr o’r gymuned yn Sir Benfro yn awyddus i gael gafael ar y brechlyn, gan gyflwyno cyfle delfrydol i gynnal clinig allgymorth i gynnig brechlyn i gynifer o bobl â phosibl ar yr un pryd.

Roedd uned cymorth symudol Gofal Canser Tenovus yn darparu gofod clinigol delfrydol i’r tîm brechu ym Maes Awyr Carew, gan ganiatáu i 89 aelod o’r gymuned teithwyr gael eu brechlyn cyntaf.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cyflwyno brechlyn COVID-19 wedi cyflwyno heriau logistaidd sylweddol, ac mae cynnal clinigau allgymorth ar gyfer grwpiau anoddach eu cyrraedd wedi bod yn hanfodol os ydym am sicrhau fod gan ein cymuned fynediad teg at frechlyn.

“Mae rhai grwpiau yn ein cymdeithas yn wynebu anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal iechyd a dangoswyd bod mynediad yn hytrach na oedi yn rhwystr sylweddol rhag cael brechlyn.

“Trwy ddefnyddio uned cymorth symudol Gofal Canser Tenovus, galluogodd ein tîm brechu i ddileu’r rhwystr hwn wrth i 89 aelod o’r gymuned teithwyr yn Sir Benfro gael brechlyn.

“Roedd cefnogi mynediad at ail ddos y brechlyn i’n cymuned teithwyr hefyd yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen allgymorth hon.

“Ar ran y rhaglen frechu, hoffwn ddiolch i Gofal Canser Tenovus am eu cefnogaeth a hefyd i sefydliadau partner ac aelodau o’r gymuned am weithio gyda ni i wneud hyn yn llwyddiant.”

Dywedodd Judi Rhys MBE, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus: “Rydyn ni’n falch iawn o helpu’r clinig allgymorth hwn i ddarparu cyfleoedd hygyrch i bawb yn y gymuned allu cael brechlyn COVID-19.

“Mae ein hunedau cymorth symudol yn cynnig gofod hyblyg, diogel a symudol i ddarparu gofal iechyd i bobl ble bynnag y bônt. Rydym yn falch bod ein hunedau’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’r rhai â chanser yng Nghymru, a’u bod wedi gallu cefnogi GIG Cymru gyda’r broses frechu hanfodol hon.”

Mae pob oedolyn yng Nghymru bellach yn gymwys i gael brechlyn. I ofyn am frechlyn cyntaf, llenwch y ffurflen ar-lein hon neu cysylltwch â’r bwrdd iechyd yn uniongyrchol ar 0300 303 8322.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle