“Y brechlyn yw ein gobaith am normalrwydd” meddai Gofalwr o Lanymddyfri

0
265

Mae brechlyn COVID-19 wedi rhoi gobaith i deulu Sanders yn dilyn blwyddyn o newid sylweddol i’w mab ieuengaf.

John Sanders, 46 o Llandeilo oedd y pumed person yn y DU i gael brechlyn Moderna. Mae’n byw gyda’i wraig, Farcreena, 45 a’i fab 22 oed, Rory.

Mae gan John chwe mab, ac mae’n gofalu am ei fab ieuengaf Rory, sydd ag Awtistiaeth. Mae tri o’r cartref wedi derbyn eu brechlyn cyntaf ac yn aros am eu hail ddos.

“Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd, does dim llawer rydyn ni wedi gallu ei wneud. Y brechlyn yw ein gobaith am normalrwydd.

“Mae Rory yn dal i fod yn eithaf agored i niwed, gyda’r holl driniaethau y mae wedi’u derbyn dros y blynyddoedd mae yna rai pethau nad yw wedi gallu eu gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf, felly mae wedi bod anodd iawn iddo.”

Cafodd Rory ei ddiagnosio yn saith mis oed gyda thiwmor canseraidd ar yr ymennydd a dywedwyd wrtho na fyddai’n goroesi i fod yn oedolyn.

“Doedden ni ddim yn meddwl y byddai’n goroesi. Trwy gydol ei fywyd mae wedi cael tair llawdriniaeth fawr ar yr ymennydd, yn ogystal â thriniaethau amrywiol a chemotherapi dwys. Pan oedd yn 16 oed cawsom glywed ei fod yn glir. Roedd yn wyrth. ”

Ar ddechrau’r cyfnod clo, ymgyrchodd John a’i wraig i adeiladu estyniad ar eu tŷ at ddefnydd Rory.

“Doedden ni byth yn disgwyl iddo fyw cyhyd. Mae wedi bod yn anodd gyda phob un ohonom ni yn y tŷ ar yr un pryd drwy’r flwyddyn, felly mae’n braf iddo gael ei le ei hun o’r diwedd lle gall eistedd ac edrych y tu allan yn yr heulwen. ”

Mae gan Rory weithiwr cymdeithasol ac ymwelydd iechyd nad yw wedi gallu ymweld mor aml yn ystod y cyfnod clo na mynd ag ef i’w weithgareddau cymdeithasol arferol y mae’n eu mynychu yn Cross Hands.

“Rydyn ni nawr yn teimlo’n llawer mwy cyfforddus ar ôl cael y brechiad, mae pethau nawr yn symud ymlaen o’r diwedd. Mae’n anodd i Rory ddeall pam mae pethau bellach yn newid eto, a gall ei ysgogi i fod yn anodd, ond gyda’r ail frechlyn gallwn deimlo’n gyffyrddus wrth ei annog i fynd yn ôl i’w fywyd cymdeithasol a dechrau bod yn Rory unwaith eto.”

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae dyfodiad brechlynnau COVID-19 yn newid y byd yn ein brwydr yn erbyn y pandemig ofnadwy hwn ac mae’n hyfryd clywed am y gobaith y mae wedi’i gynnig i deulu Sanders. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am rannu eu stori.

“Mae’n bwysig iawn bod pobl leol yn parhau i ymateb mor gadarnhaol pan gânt eu gwahodd i fynychu clinig brechu am eu dos cyntaf ac am eu hail ddos pan fydd yn ddyledus. Rydym yn bendant i gyd yn hyn gyda’n gilydd ac mae angen cymaint o bobl â phosibl arnom i ddod ymlaen am eu brechlyn i sicrhau bod gan ein cymunedau ledled canolbarth a gorllewin Cymru y lefel orau o ddiogelwch â phosibl rhag y feirws hwn.

“Ein nod yw gadael neb ar ôl, felly os nad ydych wedi derbyn eich brechlyn eto, neu wedi newid eich meddwl ynglŷn â derbyn un, cysylltwch â’r bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu apwyntiad i chi.”

Os ydych chi dros 18 oed neu yng ngrwpiau blaenoriaeth JCVI 1 i 9 ac heb dderbyn apwyntiad brechlyn cyntaf, gofynnwch am un cyn gynted â phosibl trwy lenwi’r lenwi’r ffurflen gais ar-lein yma. Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn methu â llenwi ein ffurflen gais ar-lein, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle