Clinigau cerdded i mewn: brechiad dos cyntaf ac ail ddydd Llun 21 i ddydd Sul 27 Mehefin

0
359
MERTHYR TYDFIL, WALES - JANUARY 04: A close-up of a Oxford-AstraZeneca vaccine vial containing 10 doses at Pontcae Medical Practice on January 4, 2021 in Merthyr Tydfil, Wales. The Oxford-AstraZeneca COVID-19 vaccine was administered at a handful of hospitals today before being rolled out to hundreds of GP-led sites across the country this week.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal clinigau brechu cerdded i mewn yr wythnos hon. Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad ac os ydych eisoes wedi cofrestru gan ddefnyddio ffurflen ar-lein y bwrdd iechyd, mae croeso i chi fynychu’r clinig cerdded i mewn o hyd.

Os oes gennych apwyntiad wedi’i drefnu, cadwch amser eich apwyntiad.

Gyda’r cynnydd mewn achosion ledled y DU mae’n bwysig bod cymaint o bobl yn dod ymlaen i gael eu brechiad cyntaf ac ail

Clinigau cerdded i mewn brechlyn cyntaf ar gyfer unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn a sydd heb gael eu brechlyn COVID-19 cyntaf eto :

  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3FL): Dydd Iau 24 a Dydd Gwener 25 Mehefin, 10am i 8pm.
  • Aberteifi (Canolfan Hamdden Teifi SA43 1HG): Dydd Gwener 25 Mehefin, 9.30am i 5pm.
  • Caerfyrddin (Canolfan Gynadledda Halliwell, UWTSD, SA31 3EP): Dydd Llun 21, Dydd Mawrth 22, Dydd Mercher 23, Dydd Iau 24 a Dydd Gwener 25 Mehefin, 10am i 8pm.
  • Llanelli (Theatr Ffwrnes SA15 3YE): Dydd Iau 24 and Dydd Gwener 25 Mehefin, 10am i 8pm.
  • Dinbych-y-Pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod, SA70 8EJ): Dydd Sadwrn 26 a Dydd Sul 27 Mehefin, 10am i 8pm

Clinigau cerdded i mewn ail frechlyn (Dylech fynychu os yw’r ganolfan yn rhoi’r un frechlyn ag y cawsoch chi ar gyfer eich dos cyntaf. Mae’r wybodaeth hon i’w gweld ar eich cerdyn brechlyn.)

  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3FL): Dydd Llun 21, Dydd Mawrth 22 a Dydd Mercher 23 Mehefin, 10am i 8pm. Ail ddos brechlyn Moderna dim ond os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 11 Ebrill.
  • Llanelli (Theatr Ffwrnes SA15 3YE): Dydd Llun 21, Dydd Mawrth 22 a Dydd Mercher 23 Mehefin, 10am i 8pm. Ail ddos brechlyn Moderna dim ond os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 11 Ebrill.
  • Dinbych-y-Pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych-y-Pysgod, SA70 8EJ): Dydd Gwener 25 Mehefin, 10am i 8pm. Ail ddos brechlyn Oxford Astrazeneca dim ond os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 25 Ebrill.

Os na allwch fynychu clinig cerdded i mewn, gallwch ofyn am eich brechlyn cyntaf trwy lenwi’r ffurflen hon.

I ofyn am eich ail ddos, defnyddiwch y ffurflen gais yma.

Os na allwch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ddefnyddio ffurflen ar-lein, cysylltwch â’n tîm archebu ar 0300 303 8322.

Pwysig: Trwy deithio i ganolfan, rydych chi’n derbyn bod risg y bydd pob brechlyn wedi cael ei ddyrannu cyn i chi gyrraedd. Os byddwch chi’n cyrraedd ar ôl i’r holl frechlynnau gael eu dyrannu, byddwn yn cymryd eich manylion cyswllt ac yn eich ychwanegu at ein rhestr wrth gefn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle