Dathlu 10 mlynedd o gefnogaeth genedlaethol ar gyfer personél y Lluoedd Arfog

0
285
Hannah Blythyn MS

Wrth i ddathliadau Wythnos y Lluoedd Arfog [21 i 27 Mehefin] gael eu cynnal ar draws y wlad, mae’r digwyddiadau eleni hefyd yn nodi 10 mlynedd ers i sefydliadau ar draws Cymru ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog.
Sefydlwyd y cyfamod i sicrhau nad yw aelodau presennol a chyn-aelodau cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais o ran cael mynediad i wasanaethau, a’u bod yn cael ystyriaeth arbennig, er enghraifft, i gael mynediad at wasanaethau iechyd os yw eu cyflwr yn ymwneud â’u Gwasanaeth.

Yng Nghymru, mae’r ymrwymiad hwn i’r Cyfamod wedi cynnwys:

  • Cynyddu cyllid y GIG sy’n benodol i wasanaethau iechyd corfforol ac iechyd meddwl ar gyfer cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog;
  • Canllaw Ymaddasu penodol i Gymru ar gyfer unigolion sy’n gadael y Gwasanaeth a’u teuluoedd;
  • Cynlluniau Gwarantu Cyfweliad ar gyfer cyn-bersonél y Lluoedd Arfog;
  • Cymorth cyllid ar gyfer plant personél y Lluoedd Arfog;
  • Cyllid i elusennau fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog.

Aeth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, i ymweld â Barics Hightown yn Wrecsam ddoe [Dydd Llun 21].

Dywedodd: “Drwy gydol pandemig y coronafeirws, mae aelodau a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog wedi parhau i roi cymorth ac arbenigedd amhrisiadwy i gymunedau ar draws y wlad.

“Mae wythnos y Lluoedd Arfog yn rhoi llwyfan a chyfle inni gydnabod ac ystyried y rhan enfawr sydd gan ein Lluoedd Arfog i’w chwarae wrth gadw ein cymunedau’n ddiogel, yn awr ac yn y gorffennol. Maent yn llawn haeddu ein diolch a’n gwerthfawrogiad.”

VC Gallery yn Hwlffordd yw un elusen sydd wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yn benodol. Mae’r cyllid diweddar hwn wedi’u galluogi i gefnogi cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog mewn ardaloedd gwledig i fynd i’r afael ag ynysigrwydd a chael gwared ar y rhwystrau i gael cefnogaeth.

Barry John MBE

Gan siarad am waith yr oriel, dywedodd y cydlynydd Barry John MBE,:

“Mae VC Gallery yn cynnal amryw o ddigwyddiadau, diwylliannol a chymdeithasol, ar gyfer cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yn ogystal â’r gymuned ehangach. Rydym yn teimlo’n gryf y gall celf a diwylliant wella iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd yn gyffredinol.

“Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau cysylltiadau agos rhwng y lluoedd arfog a’r gymuned i wneud yn siŵr eu bod nhw a’u teuluoedd yn cadw cysylltiad, yn cael gwell canlyniadau iechyd a phrofiadau cadarnhaol ar ôl iddynt adael y gwasanaeth. Byddwn yn dal i weithio ochr yn ochr â’r GIG a gwasanaethau’r Awdurdod Lleol er lles ein personél o’r Lluoedd Arfog ar draws Cymru.

“Rhoddodd ein prosiect diweddar yn ystod y pandemig gyfle inni holi cyn-bersonél a’u teuluoedd yn uniongyrchol a chael gwybod beth y maent ei angen ac, yn bwysicaf oll, pa fath o fynediad yr hoffent ei gael at wasanaethau cefnogi ehangach.” 

Cymru yw’r unig wlad yn y DU i benodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog. Mae’r rhain wedi’u hariannu fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi personél presennol a chyn-aelodau.

Lisa Rawlings, AFLO for Gwent

Mae Lisa Rawlings yn un o wyth Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar draws Cymru. Ar ôl treulio 25 mlynedd yn y Llu Awyr, mae hi bellach yn rhoi arweiniad ar bolisïau ar draws pum Awdurdod Lleol yng Ngwent yn ogystal â helpu i hwyluso’r cymorth cywir ar gyfer aelodau a chyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.

Dywedodd Lisa: “Fel cyn-aelod fy hun, rwy’n angerddol am gymuned y Lluoedd Arfog. Fel rhan o’m swydd fel Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog rwy’n cynghori ac yn cynorthwyo – o safbwynt y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd – wrth ddatblygu, gweithredu a monitro cynlluniau, blaenoriaethau a chynlluniau strategol allweddol y cynghorau a phartneriaethau.

“Mae hyn yn cynnwys rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â’r anfanteision y gall cymuned y Lluoedd Arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac adnabod yr hyn y maent wedi’i aberthu.”

Oherwydd bod Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn gweithio ar draws 22 Awdurdod Lleol Cymru, gallant adnabod materion ac arferion gorau i’w hystyried ar lefel Cymru gyfan.

Ychwanegodd Lisa: “Mae cydweithredu yn allweddol. Mae cyrff cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, a’r gymuned filwrol a’r Lluoedd Arfog yn gweithio’n galed i sicrhau nad oes unrhyw un dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth.”

Yn ychwanegol, fel rhan o Wythnos y Lluoedd Arfog, bydd Cynllun Ymaddasu cyntaf Cymru’n cael ei gyhoeddi ddydd Iau i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i bersonél sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd sy’n dymuno adleoli i Gymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle