Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi fod y nifer o bobl sy’n gallu mynychu claddedigaethau yn y fwrdeistref sirol yn mynd i godi o 20 i 30 o 21 Mehefin 2021, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.
Gosodir cyfyngiadau ar y niferoedd all fynychu claddedigaeth gan Lywodraeth Cymru i atal lledaenu Covid-19 ac i ddiogelu’r bobl sy’n mynychu.
Y cyngor cyffredinol o hyd, felly, yw y dylai pobl ddim ond fynd i angladd os ydyn nhw wedi cael eu gwahodd yno gan y person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd.
Oherwydd yr angen i gynnal pellter cymdeithasol digonol yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, bydd y niferoedd all fynychu gwasanaethau yn Amlosgfa Margam yn parhau i fod yn 20.
Unwaith eto, mae’r cyfyngiad ar niferoedd all fynychu’r amlosgfa wedi cael ei wneud i ddiogelu’r bobl sy’n mynychu. Serch hynny mae’r niferoedd a all fynychu’n cael eu hystyried yn barhaus ac o ystyried y newidiadau mewn rheolau pellhau cymdeithasol neu newidiadau deddfwriaethol, bydd yr Amlosgfa’n adolygu niferoedd yn unol â’r nod o gynyddu cyn gynted ag y bydd hi’n bosib gwneud hynny.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle